Atgofion Ffordd Farrar
Roedd y lle fel Wembley i mi.
Canolfan gemau pwysicaf Gogledd Cymru, gyda ffeinals di-ri yn cael eu cynnal yno, ac yn gartrtef i'r tîm oedd pawb bron yn ceisio eu hefelychu.
Un o'r ymadroddion peldroed cyntaf i mi ddysgu oedd ' Bangor style' pan oedd y gwrthwynebwyr yn cicio'r bel allan am dafliad pan o dan bwysau - ond roedd yna steil arbennig ac unigryw yn perthyn i Ffordd Farrar - canolfan athrylith peldroed y gogledd.
Rwy'n cofio Porthmadog yn ennill Cwpan Amatur Cymru yno - yn curo Peritus o bum gôl i ddau, cyn imi ddychwelyd yno'r flwyddyn olynnol i weld Port yn cadw gafael ar y Gwpan gan guro'r Derwyddon gyda'r un sgôr mewn gêm ail chwarae.
Dwi hefyd yn cofio John Charles yn dod yno gyda Chaerdydd yng Nghwpan Cymru - a'r cawr yn anfon taran o gynnig o dros ugain llath - dros y trawst ac yn erbyn wal y tŷ a oedd y tu ôl i'r gôl yr adeg hynny, a'r bêl yn adlamu yn syth yn ôl i'r cae.
Roeddwn yno hefyd pan ddaeth Napoli i Ffordd Farrar i chwarae yng Nghwpan Enillwyr Ewrop a Bangor yn eu curo, a chofiaf weld Atletico Madrid yno hefyd ymysg nifer o dimau tramor a deithiodd yno yng Nghwpanau Ewrop.
Ond mae gen i fy atgofion personol hefyd - chwarae gyda Chei Connah ar y cae yn y chwedegau hwyr, ond yna mynd a thîm Treffynnon yno yn nhymor cyntaf Uwchgynghrair Cymru gan ennill o chwe gôl i ddim (a does neb, hyd y gwyddwn i yn yr Uwchgynghrair wedi gwneud gwell ar Ffordd Farrar na hynny).
Cefais y pleser o reoli yno dros dro yn dilyn ymadawiad Nigel Adkins ac roedd hynny yn fraint.
Ond un o'r atgofion mwyaf ydi gweld Manchester United yn chwarae yno yn 1969, gyda Denis Law, Bobby Charlton a George Best yn y tîm mewn gem rhwng tîm cenedlaethol Cymru a Manchester United ar gyfer dathlu Croeso '69. Doedd fawr o neb yn malio dim am arwisgiad y Tywysog Siarl i lawr y ffordd yng Nghaernarfon. Roedd tri o frenhinoedd y byd peldroed ar Ffordd Farrar a George Best yn cael ei goroni fel dewin hudoliaeth wrth iddo ein swyno gyda champweithiau anghredadwy o flaen tyrfa nad oedd erioed wedi gweld y fath beth o'r blaen.
Ie atgofion melys iawn o ddyddiau dedwydd Ffordd Farrar - boed iddynt barhau bythoedd.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 