Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Y Cymro diwethaf i chwarae yn y Tim GB

Glyn Griffiths|10:46, Dydd Llun, 12 Rhagfyr 2011

Tra mae'r dadlau yn parhau ynglŷn â chyfansoddiad Tîm Peldroed Prydeinig (sef y Tîm GB) ar gyfer y gemau Olympaidd, tybed faint ohonoch sydd yn gwybod pwy oedd y Cymro diwethaf i fod yn aelod o garfan tîm peldroed Olympaidd Prydain.

Yr ateb ydi cyn golgeidwad Caer, (ond yn ôl yn 1972, golgeidwad y Rhyl) sef Grenville Millington, yr unig Gymro mewn carfan a oedd yn cynnwys pymtheg o Saeson ac un Cymro.

Roedd Grenville yn aelod o dîm y Rhyl, ac roedd ei berfformiadau wrth gadw gôl i Rhyl, a hefyd i dîm amatur Cymru (lle cafodd naw o gapiau rhyngwladol cyn troi yn broffesiynol gyda Chaer) wedi tynnu sylw, a daeth gwahoddiad iddo ymuno ar daith i Japan gyda thîm y Middlesex Wanderers.

Gan mai amatur oedd Grenville, roedd rhaid cael caniatâd y gweithle'r adeg hynny i fynd ar y daith. Y gweithle oedd y gwaith dur ar Lannau'r Ddyfrdwy. Felly hefyd roedd angen caniatâd i fynd i chwarae gyda'r tîm Prydeinig yn nes ymlaen! Hwyrach fod amseroedd wedi newid a tybed a fydd angen caniatâd y cyflogwr ar Gareth Bale hefyd os am chwarae i'r tîm GB - ond nid y gwaith dur lleol fyddai hwnnw, ond clwb Tottenham Hotspur!

Cafodd Grenville y caniatâd angenrheidiol a hwyrach fod chwarae i'r Wanderers wedi cryfhau'r sylw a gafodd gan arwain at gael ei gynnwys yn y tîm Prydeinig.

Cafwyd yr alwad i ymuno a thîm Prydain yn y gemau cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol y Gemau Olympaidd ym Munich yn 1974, a chafwyd taith i Fwlgaria yn 1972. Er mai amaturiaid oedd chwaraewyr Prydain, roedd y chwaraewyr a oedd yn byw y tu ôl i'r llen haearn yr adeg hynny yn cael eu cyflogi fel gweithwyr mewn ffatrïoedd lleol, ond i bob pwrpas yn chwarae peldroed i dimau a oedd yn dimau proffesiynol (doedd dim angen gofyn am ganiatâd y cyflogwr ym Mwlgaria).

Cafodd Grenville ei gynnwys a fo oedd y chwaraewr ieuengaf yn y garfan Brydeinig, yn bedair ar bymtheg oed, gan deithio i ganolfan Bisham Abbey, ger Llundain i ymarfer.
Ond yn 1974, daeth y cysyniad o chwaraewyr amaturaidd i ben, a daeth cystadlu o dan enw'r tîm GB yn y Gemau Olympaidd i ben, tan eleni.

Beth bynnag fydd penderfyniad Gareth Bale ac Aaron Ramsey, ni ellir newid y ffaith mai arwr o sir y Fflint, Grenville Millington oedd y Cymro diwethaf i chwarae peldroed dros Brydain.

Tybed a fydd hyn yn parhau yn wir ar ôl yr Haf?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.