Wrecsam a'r perchnogion newydd
O'r diwedd mae Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr yn berchnogion ar glwb peldroed Wrecsam ac wedi gafael yn yr awenau.
Ond, mae'r disgwyliadau yn enfawr.
Yn ogystal ag ymateb i'r gofynion ariannol a gweinyddol oddi ar y cae i sicrhau eu bod yn gallu mynd i'r afael a holl ofynion arainnol a gweinyddol y clwb, mae'r tîm yn gwneud eu gwaith yn hynod effeithiol ac yn parhau a'r ymgais i ddychwelyd i Ail-adran Cynghrair Lloegr.
Bydd croeso hefyd i gyn-ffefryn y clwb a chyn-gapten Cymru, Barry Horne, fel cyfarwyddwr i'r Ymddiriedolaeth yn Wrecsam. Bydd profiad Horne yn sgil ei waith gyda Chymdeithas y Chwaraewyr Professional yn siŵr o helpu'r clwb yn weinyddol.
Ond bydd yr wythnosau nesaf yn rhai anodd. Bydd angen dangos yr ymroddiad sydd ei angen i symud ymlaen a dod a'r dyddiau da yn ôl i'r Cae Ras, ac mae'r cyfrifoldeb yn syrthio ar ysgwyddau'r perchnogion newydd.
Mae Wrecsam wedi llwyddo i gyrraedd y drydedd rownd yng nghwpan Lloegr gyda gêm oddi cartref yn Brighton i edrych ymlaen ato - a bydd y wobr ariannol o gyrraedd y rownd yma yn hwb i goffrau'r clwb.
Mae'r rheolwr Andy Morrell eisoes wedi dweud ei fod yn gobeithio y gall gryfhau'r tîm yn ystod cyfnod ffenestr arwyddo chwaraewyr ym mis Ionawr, gan weld hyn yn gyfle i sicrhau y gall yr ymdrech at ddyrchafiad barhau.
Dyna un o benderfyniadau buan fydd rhaid i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth ei wneud.
Mae'r Ymddiriedolaeth eisoes wedi dweud fod angen cefnogaeth y cefnogwyr ar y tîm - rhywsut neu'i gilydd dwi'n teimlo y bydd angen cefnogaeth y cefnogwyr ar Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr hefyd!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 