Help / Cymorth

Archifau Hydref 2011

Pam fi Duw?!

Glyn Griffiths|17:09, Dydd Mawrth, 25 Hydref 2011

Sylwadau (0)

Pam fi Duw?

Dyna'r neges a welwyd ar grys Mario Balotelli brynhawn Sul diwethaf wrth iddo chwalu Manchester United yn Old Trafford mewn perfformioad 'pyrotechnic' yn erbyn yr hen elynion.

Mae'r blaenwr dawnus, a ymunodd a Manchester City o Inter Milan wedi tynnu nyth cacwn ar ei ben fwy nac unwaith ers iddo gyrraedd gogledd Lloegr.

Daeth y bennod anffodus ddiweddaraf ar nos Sadwrn. Pan ddylai pob chwaraewr gwerth ei halen fod yn ymlacio ar gyfer gêm fawr, roedd yr Eidalwr a'i ffrindiau yn dathlu noson o dân gwyllt yng nghartref Mario.

Yn anffodus, doedd damwain ond rownd y gornel - a rhywsut neu'i gilydd fe aeth pethau'n 'cracyrs' pan daflwyd un o'r tân gwyllt i mewn i'r tŷ, gan roi'r ystafell ymolchi ar dân - a phopeth yn mynd allan o reolaeth!

Ie, Mario wedi mynd dros ben llestri eto - neu dros y bath y tro yma - a'r gwasanaeth tân yn cyrraedd i achub y dydd!

Ond buan iawn y cyhoeddodd Mario nad ef oedd y dihiryn y tro yma - ond ei ffrind!
Pam fi bob tro? Pam fi Duw? Ie, nid fi 'nath o syr - fo oedd y bai!

Pan oedd Syr Alex Ferguson yn cyfeirio at y 'cymdogion swnllyd' ar draws y ddinas - dwi ddim yn meddwl ei fod wedi rhagweld anturiaethau Mario a'r tân gwyllt!

Ond fe gafodd Man U eu llosgi mewn tipyn o goelcerth ar eu tomen eu hunain bnawn Sul - y 'bangers' a'r 'sparklers' i gyd yn perthyn i City, a gwyneb Roberto Mancini yn disgleirio fel 'Roman Candle' yn llawn syndod a rhyfeddod pan ddaeth y 'grande finale'!
Ond gwelodd mudiad i annog diogelwch tân gwyllt yn ardal Manceinion y cyfle i symud yn gyflym - llawn mor gyflym a Mario ar y cae, mae'n ymddangos, a llawer cyflymach na Wayne Rooney a'r 'duds' difflach!

Annogwyd Mario Balotelli i anfon neges y dylai pobol fod yn gyfrifol gyda than gwyllt, ac i ofalu eu defnyddio'n ddiogel.

Pam fi Duw? Wel Mario, gan dy fod wedi dangos pa mor hawdd ydi gweld chware'n troi chwerw wrth chwarae efo tân.

Ond diolch i'r blaenwr dawnus, mae wedi ymateb yn bositif, ac mae gwers oleuedig gwerth ei dysgu oddi wrth ei ddamwain anffodus.

Mae llun Mario i'w weld ar y posteri sydd yn galw am ymddygiad cyfrifol wrth ddefnyddio tan gwyllt, gan alw am sicrhau diogelwch a mabwysiadu ymddygiad cyfrifol wrth ddathlu disgleirdeb goleuedig noson tân gwyllt.

Gwyliwch y golau, a byddwch yn ddiogel.

Mario Balotelli

Datblygiadau safle Nantporth CPD Bangor

Glyn Griffiths|16:55, Dydd Gwener, 21 Hydref 2011

Sylwadau (0)

Ar raglen Ar y Marc fore Sadwrn, Hydref 22ain bydd cyfle i glywed cyfweliad gafodd Dylan Jones efo Gwynfor Jones, ysgrifennydd CPD Bangor ar safle cae newydd y clwb yn Nantporth.
Dyma luniau o'r safle:

Dyfodol uwchgynghrair Lloegr

Glyn Griffiths|10:55, Dydd Gwener, 21 Hydref 2011

Sylwadau (0)

Ydi peldroed yn Uwchgynghrair Lloegr yn mynd yn fwy hunanol a thrachwantus?

Rhyw wythnos neu ddwy yn ôl roedd cyfarwyddwr gweithredol Lerpwl, Ian Ayre, yn awgrymu y dylai pob clwb gael yr hawl i ddarlledu eu gemau - am bris. Roedd yn honni nad oes gan gefnogwyr peldroed unrhyw ddiddordeb mewn edrych ar unrhyw dim heblaw'r un y maen't hwy yn eu cefnogi!

Rubbish llwyr! Dyma hwyrach rhywbeth sydd o'i le yn y byd peldroed cyfoes. Dim amser i werthfawrogi unrhyw un arall - hunanoldeb am ein tîm ni, a chasineb at bob tîm arall.
Aeth y perchnogion tramor un gam ymhellach yr wythnos yma.

Cynnig cael Uwchgynghrair ble nad oes unrhyw dim yn cael esgyniad iddo, na chwaith yn disgyn allan ohoni - ie, yn yr Unol Dalaethau!

Dwi wedi hyfforddi digon yng ngwlad Wncl Sam i wybod na ddylid efelychu eu dull nhw o weithredu Peldroed Americanaidd, na chwaith Pel Fâs. Ymddengys fod yr hawl ar berchennog clwb i symud lleoliad ei dim o un ddinas i un arall, yn ôl mympwy am stadiwm gwel, neu chwant am fwy a mwy o gyfoeth ariannol.

Roedd y Brooklyn Dodgers yn un o dimau pêl fas gorau'r Unol Dalaethau unwaith - ond roedd dinas Los Angeles, a sêr Hollywood, am gael tîm llwyddiannus. Roedd y gwerth ariannol o symud y Dodgers ar draws cyfandir cyfan yn ormod i wrthod, a dyna enedigaeth y Los Angeles Dodgers.

Hwyrach fod y perchnogion tramor wedi achub clybiau peldroed Lloegr yn ariannol ond mae angen iddynt wybod ble i roi terfyn eu trachwant.

Mae perchennog Wigan Athletic, y Sais Dave Whelan wedi bygwth tynnu ei dim allan o'r Uwchgynghrair petai syniadau'r tramorwyr yma yn dod i fodolaeth.

Da iawn Mr Whelan - tybed beth ar wyneb y ddaear a ddaw nesaf? Abertawe yn chwarae eu gemau cartref yn Tokyo neu Cairo, neu yn adleoli yn yr Unol Dalaethau fel y Sundance Swans?

Ar y llaw arall tybed a fyddai timau Uwchgynghrair Cymru yn elwa petaent yn gallu sicrhau eu bodolaeth yn y gynghrair honno am ryw gyfnod o dair blynedd?
Digon o amser i gael trefn ar bethau a hwyrach I godi safon heb orfod poenydio am lithro allan ar ôl blwyddyn!

Wedi'r cwbl, mae bron pob syniad arall wedi cael ei gynnig a does fawr ddim wedi newid ar y cae, ac mae yna un tîm yn chwarae eu gemau cartref mewn gwlad arall eisoes!

Dim ond gofyn!

Cymru Newydd

Categorïau:

Glyn Griffiths|06:44, Dydd Sadwrn, 15 Hydref 2011

Sylwadau (0)

Mae pethau'n symud ar gyflymder.

Ie, anghofiwch safle'r 117, 'rydym ar y ffordd i'r pumdeg uchaf, ac os gall ein tîm rygbi fynd i Seland Newydd a gwneud enw iddynt eu hunain ac ennill anfarwoldeb haeddiannol, fe all tîm Gary Speed gyrraedd Brasil erbyn 2014 a chynnig profiad newydd sbon inni gyd!

Ie, tydi o ddim yn cymryd llawer i'n hanfon dros ben llestri yn y byd pêl-droed.
ond o ddifrif, mae cyflawniad Speed yn codi gobaith ac yn rhoi arweiniad newydd inni.
Ymddengys fod yna lawer mwy o awch gan y chwaraewyr presennol i chwarae dros eu gwlad; bod trefn gyfoes ar y tîm yn ogystal â galluoedd arbennig unigolion megis Gareth Bale a Craig Bellamy.

Doedd gen i dim amheuaeth y byddai Cymru yn ennill ym Mwlgaria, a'r unig siom oedd gweld y Swistir yn curo Montenegro gan sicrhau y trydydd safle iddynt eu hunain.
O na fyddai'r tîm hyfforddi presennol wedi cael eu penodi ynghynt - fe fyddai cyrraedd yr ailsafle wedi bod yn realistig (os nad ennill y grŵp! -ond dyma fi yn colli rheolaeth o'm hunan eto!).

Ond o ddifrif, stori arall fel petai , oni bai ac efallai eto , felly o ystyried y timau sydd yng ngrŵp Cymru ar gyfer cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014, oes mae gobaith go iawn yn bod!

Ie, 'rydym wedi clywed hyn yn y gorffennol - ond y tro yma mae hyn o ddifrif - ie, 'rydym wedi clywed hynny hefyd -ond rhywle , rhywsut yn fy nghalon, ac yn fy mhen, mae dyddiau gwell i ddod i Mr Speed ac un ar ddeg o'i blant , oes mae dyddiau gwell i ddod.
'Vamos com Gales a Brasil!'

Dyfodol addawol Cymru dan 23

Glyn Griffiths|14:20, Dydd Iau, 6 Hydref 2011

Sylwadau (0)

Yn dilyn siom o ystyried canlyniadau timau Cymru yn Ewrop ar ddechrau'r tymor, mae gobaith yn codi yn sgil canlyniad y tîm lled-broffesiynol o dan 23 oed yr wythnos yma.

Llwyddodd tîm Terry Boyle i guro Estonia o ddwy gôl i un oddi cartref, yn Stadiwm Genedlaethol Tallinn nos Fercher, diolch i goliau gan y ddau flaenwr o Gastell Nedd - Luke Bowen a Chris Jones.

Dyma oedd gem gyntaf Cymru yng nghystadleuaeth y Tlws Rhyngwladol 2011/13 a'r tro cyntaf i Gymru ennill gêm ar y lefel yma.

Roedd naw o chwaraewyr y tîm yn aelodau o glybiau Uwchgynghrair Cymru, gyda'r gweddill yn aelodau o dimau yng Nghynghrair y Blue Square.

Dengys hyn fod datblygiad y gêm yng Nghymru yn gwella, a bydd gemau o'r math yma yn ehangu profiad.

Fel y daw'r chwaraewyr yma yn well ac yn fwy profiadol, byddant yn gallu cynnig mwy o arweiniad o fewn eu clybiau. Hwyrach wedyn y bydd yna lai o ddibyniaeth ar chwaraewyr o Loegr (neu ymhellach) i gryfhau timau Uwchgynghrair Cymru.

Ond mae llawer i'w gyflawni cyn hynny - ac mae angen sicrhau cysondeb a gwelliant parhaol ar y cae o fewn gemau yr Uwchgynghrair os yw hyn am ddigwydd.

Fodd bynnag, mae'r arwyddion yna - a mawr hyderwn y cawn edrych ymlaen am fwy o lwyddiant yn y gyfres yma o gemau rhyngwladol.

Llongyfarchiadau i Terry a'r tîm.

Saga (arall) Carlos Tevez

Glyn Griffiths|10:41, Dydd Llun, 3 Hydref 2011

Sylwadau (0)

"Cadw dy blydi chips" - ie, rhyw ateb felly rhoddodd Carlos Tevez i Roberto Mancini yr wythnos diwethaf wrth iddo wrthod dod ar y cae fel eilydd yn y gêm ym Munich.

Agorwyd drysau uffern, gyda Mancini yn cyhoeddi na fyddai Tevez byth yn chwarae i Manchester City eto!

Daeth uffern yn nes byth i Tevez wrth i Limavady United o'r Iwerddon gynnig gemau ar fenthyg i'r Archentwr, ar yr amod y byddai City yn talu ei gyflog.

Yna death cyhoeddiad anesboniadwy gan Tevez yn honni ei fod un ddigon parod i chwarae i Manchester City, ond bod yna gamddealltwriaeth wedi bod!

Pa mor anodd ydi deall - " Cyfod dy dîn oddi ar y fainc - a rhodia i'r cae"?

Faint o chwaraewyr, tybed, sydd wedi gwrthod chwarae yn ystod eu gyrfa?
Mae wedi dod i'r amlwg fod Paul Scholes wedi gwrthod chwarae i Syr Alex mewn gem yng Nghwpan y Gynghrair unwaith - gyda Manchester United yn newid y tîm bron yn gyfan gwbl ar gyfer y gêm!

Mae timau bychain yn llawn o bobol sydd yn cyhoeddi na allant chwarae - "y wraig am imi osod concrid ar y dreif", "y wraig eisiau gwneud y siopa Nadolig", " mae'r fam yng nghyfraith yn galw heibio", neu'r un a oedd yn fy nghorddi fwyaf - "allai ddim chwarae gan fod y tymor criced heb orffen - ond byddaf ar gael yn syth wedyn!"

Ond, gyfeillion oll - fy stori orau ydi'r un am y chwaraewr na allasai chwarae i mi mewn gêm unwaith am ei fod yn bwriadu dangos 'marrows' yn sioe Bala!

Tybed pryd cawn wybod tynged Sñr Tevez?

Ie wir - hir yw pob ymaros!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.