Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Dyfodol uwchgynghrair Lloegr

Glyn Griffiths|10:55, Dydd Gwener, 21 Hydref 2011

Ydi peldroed yn Uwchgynghrair Lloegr yn mynd yn fwy hunanol a thrachwantus?

Rhyw wythnos neu ddwy yn ôl roedd cyfarwyddwr gweithredol Lerpwl, Ian Ayre, yn awgrymu y dylai pob clwb gael yr hawl i ddarlledu eu gemau - am bris. Roedd yn honni nad oes gan gefnogwyr peldroed unrhyw ddiddordeb mewn edrych ar unrhyw dim heblaw'r un y maen't hwy yn eu cefnogi!

Rubbish llwyr! Dyma hwyrach rhywbeth sydd o'i le yn y byd peldroed cyfoes. Dim amser i werthfawrogi unrhyw un arall - hunanoldeb am ein tîm ni, a chasineb at bob tîm arall.
Aeth y perchnogion tramor un gam ymhellach yr wythnos yma.

Cynnig cael Uwchgynghrair ble nad oes unrhyw dim yn cael esgyniad iddo, na chwaith yn disgyn allan ohoni - ie, yn yr Unol Dalaethau!

Dwi wedi hyfforddi digon yng ngwlad Wncl Sam i wybod na ddylid efelychu eu dull nhw o weithredu Peldroed Americanaidd, na chwaith Pel Fâs. Ymddengys fod yr hawl ar berchennog clwb i symud lleoliad ei dim o un ddinas i un arall, yn ôl mympwy am stadiwm gwel, neu chwant am fwy a mwy o gyfoeth ariannol.

Roedd y Brooklyn Dodgers yn un o dimau pêl fas gorau'r Unol Dalaethau unwaith - ond roedd dinas Los Angeles, a sêr Hollywood, am gael tîm llwyddiannus. Roedd y gwerth ariannol o symud y Dodgers ar draws cyfandir cyfan yn ormod i wrthod, a dyna enedigaeth y Los Angeles Dodgers.

Hwyrach fod y perchnogion tramor wedi achub clybiau peldroed Lloegr yn ariannol ond mae angen iddynt wybod ble i roi terfyn eu trachwant.

Mae perchennog Wigan Athletic, y Sais Dave Whelan wedi bygwth tynnu ei dim allan o'r Uwchgynghrair petai syniadau'r tramorwyr yma yn dod i fodolaeth.

Da iawn Mr Whelan - tybed beth ar wyneb y ddaear a ddaw nesaf? Abertawe yn chwarae eu gemau cartref yn Tokyo neu Cairo, neu yn adleoli yn yr Unol Dalaethau fel y Sundance Swans?

Ar y llaw arall tybed a fyddai timau Uwchgynghrair Cymru yn elwa petaent yn gallu sicrhau eu bodolaeth yn y gynghrair honno am ryw gyfnod o dair blynedd?
Digon o amser i gael trefn ar bethau a hwyrach I godi safon heb orfod poenydio am lithro allan ar ôl blwyddyn!

Wedi'r cwbl, mae bron pob syniad arall wedi cael ei gynnig a does fawr ddim wedi newid ar y cae, ac mae yna un tîm yn chwarae eu gemau cartref mewn gwlad arall eisoes!

Dim ond gofyn!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.