Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Saga (arall) Carlos Tevez

Glyn Griffiths|10:41, Dydd Llun, 3 Hydref 2011

"Cadw dy blydi chips" - ie, rhyw ateb felly rhoddodd Carlos Tevez i Roberto Mancini yr wythnos diwethaf wrth iddo wrthod dod ar y cae fel eilydd yn y gêm ym Munich.

Agorwyd drysau uffern, gyda Mancini yn cyhoeddi na fyddai Tevez byth yn chwarae i Manchester City eto!

Daeth uffern yn nes byth i Tevez wrth i Limavady United o'r Iwerddon gynnig gemau ar fenthyg i'r Archentwr, ar yr amod y byddai City yn talu ei gyflog.

Yna death cyhoeddiad anesboniadwy gan Tevez yn honni ei fod un ddigon parod i chwarae i Manchester City, ond bod yna gamddealltwriaeth wedi bod!

Pa mor anodd ydi deall - " Cyfod dy dîn oddi ar y fainc - a rhodia i'r cae"?

Faint o chwaraewyr, tybed, sydd wedi gwrthod chwarae yn ystod eu gyrfa?
Mae wedi dod i'r amlwg fod Paul Scholes wedi gwrthod chwarae i Syr Alex mewn gem yng Nghwpan y Gynghrair unwaith - gyda Manchester United yn newid y tîm bron yn gyfan gwbl ar gyfer y gêm!

Mae timau bychain yn llawn o bobol sydd yn cyhoeddi na allant chwarae - "y wraig am imi osod concrid ar y dreif", "y wraig eisiau gwneud y siopa Nadolig", " mae'r fam yng nghyfraith yn galw heibio", neu'r un a oedd yn fy nghorddi fwyaf - "allai ddim chwarae gan fod y tymor criced heb orffen - ond byddaf ar gael yn syth wedyn!"

Ond, gyfeillion oll - fy stori orau ydi'r un am y chwaraewr na allasai chwarae i mi mewn gêm unwaith am ei fod yn bwriadu dangos 'marrows' yn sioe Bala!

Tybed pryd cawn wybod tynged Sñr Tevez?

Ie wir - hir yw pob ymaros!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.