Dyfodol addawol Cymru dan 23
Yn dilyn siom o ystyried canlyniadau timau Cymru yn Ewrop ar ddechrau'r tymor, mae gobaith yn codi yn sgil canlyniad y tîm lled-broffesiynol o dan 23 oed yr wythnos yma.
Llwyddodd tîm Terry Boyle i guro Estonia o ddwy gôl i un oddi cartref, yn Stadiwm Genedlaethol Tallinn nos Fercher, diolch i goliau gan y ddau flaenwr o Gastell Nedd - Luke Bowen a Chris Jones.
Dyma oedd gem gyntaf Cymru yng nghystadleuaeth y Tlws Rhyngwladol 2011/13 a'r tro cyntaf i Gymru ennill gêm ar y lefel yma.
Roedd naw o chwaraewyr y tîm yn aelodau o glybiau Uwchgynghrair Cymru, gyda'r gweddill yn aelodau o dimau yng Nghynghrair y Blue Square.
Dengys hyn fod datblygiad y gêm yng Nghymru yn gwella, a bydd gemau o'r math yma yn ehangu profiad.
Fel y daw'r chwaraewyr yma yn well ac yn fwy profiadol, byddant yn gallu cynnig mwy o arweiniad o fewn eu clybiau. Hwyrach wedyn y bydd yna lai o ddibyniaeth ar chwaraewyr o Loegr (neu ymhellach) i gryfhau timau Uwchgynghrair Cymru.
Ond mae llawer i'w gyflawni cyn hynny - ac mae angen sicrhau cysondeb a gwelliant parhaol ar y cae o fewn gemau yr Uwchgynghrair os yw hyn am ddigwydd.
Fodd bynnag, mae'r arwyddion yna - a mawr hyderwn y cawn edrych ymlaen am fwy o lwyddiant yn y gyfres yma o gemau rhyngwladol.
Llongyfarchiadau i Terry a'r tîm.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 