Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Merched Twrci a'r ffrwgwd yn Leeds

Glyn Griffiths|11:36, Dydd Iau, 22 Medi 2011

Yn Old Trafford - 'Glory , Glory Man United' ydi geiriau'r gymanfa gymunedol - ond nos Fawrth diwethaf, synnwn i ddim petawn wedi clywed 'Glory, Glory Women United' yn cael ei morio yn Stadiwm Sumru Saracoglu yn Istanbul!

Yn dilyn terfysg ymysg y dorf mewn gêm 'gyfeillgar ' yn ystod yr Haf rhwng Fenerbahce a Shaktar Donesk o'r Wcráin, gorfodwyd y tîm o Dwrci i chwarae dwy gêm y tu ôl i ddrysau caeedig.

Fel arfer does dim dadlau, na chyfamodi - ond fe dorrodd Cymdeithas Beldroed Twrci gŵys newydd wrth benderfynu na ddylid chwarae mewn stadiwm wag. Yn hytrach, fe wahoddwyd merched a phlant o dan ddeuddeg oed i'r ddwy gêm a hynny yn rhad ac am ddim.

Nos Fawrth diwethaf, chwaraeodd Fenerbache yn erbyn Manisaspor o flaen torf o 41,000 yn eu stadiwm yn Istanbul, ac yn ôl y sôn, doedd dim rhegi ymysg y caneuon, na therfysg ymysg y dyrfa, na chwaith unrhyw un wedi meddwi yn y gêm!

Mae nifer o agweddau i'w ystyried yma - gan gynnwys agwedd boliticiadd gyda Thwrci yn ffinio ar Iran, ble mae'r heddlu wedi ymosod ar ferched a feiddiai geisio mynd i weld gem beldroed ym mhrifddinas Tehran.

Tybed a fyddai'r fenter arloesol yma yn cael ei efelychu yng Nghymru neu Loegr?
Tra roedd y merched yn dangos agwedd newydd o gefnogi - rhywbeth a gafodd ei werthfawrogi gan amddiffynnwr Fenerbache, Joseph Yobo (gynt o Everton) - roedd yr awyrgylch ar Elland Road mewn gem Cwpan Carling rhwng Leeds United a Manchester United yn rhywbeth hollol wahanol.

Yn sgil y ffieidd-dra, y siantiau afiach a glywyd am farwolaeth cefnogwyr Leeds yn y gorffennol, a'r fanner annerbyniol a welwyd yn cyfeirio yn wawdlyd at drychineb honno ( yn eironig iawn - a ddigwyddodd yn Nhwrci) , hwyrach fod yna rywbeth i'w ddysgu gan Gymdeithas Beldroed Twrci!

Hwyrach fod yna wers wedi'r cwbl, a bod mwy o waith i'w wneud yma ym Mhrydain i leihau'r agwedd lwythol llawn testosteron a geir ym mhob gêm bron gan ddynion na all oddef y ffaith fod yna dimau eraill yn bodoli, a bod ganddynt hwythau hefyd yr hawl i gefnogi eu tim.

Yn sgil yr anrhefn sydd yn parhau, mae'n amser sylweddoli fod yna fwy i wneud i sicrhau fod y gêm yn apelio at bawb, bod hawl gan bob cefnogwr i fynychu gêm mewn awyrgylch ddiogel, a bod y llwybr i wneud y gêm yn un sydd yn weddus i'r teulu, yn parhau i fod yn daith hir ac anodd.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.