Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Chwaraewr newydd Aberystwyth - un o'r "gorau erioed" yn uwch-gynghrair Cymru?

Glyn Griffiths|13:00, Dydd Iau, 15 Medi 2011

Mae clwb Aberystwyth wedi syfrdanu llawer drwy gyhoeddi ei bod wedi arwyddo Sean Thornton - gan honni mai dyma un o'r chwaraewyr mwyaf i gael ei arwyddo gan glwb yn Uwchgynghrair Cymru. Ie, Sean Thornton - a cyn ichi ofyn - cyn chwaraewr canol cae gyda Sunderland, Leyton Orient, Doncaster Rovers, a Tranmere Rovers.

Mae hefyd wedi chwarae deuddeg gem dros Weriniaeth Iwerddon o dan 21 oed.
Cefndir eithaf profiadol - ond ymysg y gorau a fydd erioed yn yr Uwchgynghrair? Mae pwysau ar y Gwyddel cyn iddo gicio pêl yng Nghymru, gyda llygaid pob tîm arno o'r cychwyn.

Ond beth sydd yn gwneud chwaraewr a ellir ei ddisgrifio fel y gorau erioed? Ydi cefndir Thornton yn haeddu'r fath froliant?

Mae Neville Southall eisoes wedi chwarae i'r Rhyl, ac os bydd Thornton yn agos ei allu i'r hyn a daeth Kristian Edwards i Aberystwyth rhyw dymor neu ddau yn ôl, yna fe all gael ei ystyried yn ddawnus iawn. Ble mae Lee Trundle, Andy Legg, Clayton Blackmore, Mickey Thomas a hefyd Kevin Langley (a enillodd fedal bencampwriaeth Lloegr gydag Everton) yn ffitio i mewn i'r disgrifiad o'r gorau erioed o'i gymharu a'r disgwyliadau sydd ar Thornton?

Mae bywyd Uwchgynghrair Cymru fel bocs o siocled (i ddyfynu Forrest Gump) gan nad oes wybod beth sydd yn dod nesaf! Tybed sut fath o siocled fydd bocs galluoedd Thornton yn ei gynnig - caled a chadarn fel cneuen flasus, neu yn cael ei gnoi fel rhyw 'soft centre' newydd ar Goedlan y Parc?

Cawn weld. Yn y cyfamser - pwy fydda chi yn ei ystyried fel y chwaraewr mwyaf i arwyddo i glwb yn Uwchgynghrair Cymru . Fel y bocs siocled - does wybod beth i'w ddisgwyl - mae'r dewis i chi!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.