Help / Cymorth

Archifau Gorffennaf 2011

Amser i chwarewyr Cymru ddilyn esiampl Beckham?

Glyn Griffiths|13:41, Dydd Iau, 28 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Wythnos wedi inni geisio dod i ymrafael a chanlyniadau timau Cymru yn Ewrop, mae rhestr detholion gwledydd FIFA yn gweld Cymru yn disgyn I safle 112eg.

Erbyn heddiw rydym yn cael ein hystyried o'r un safon (un safle yn is i fod yn gywir) a Ynysoedd y Faro, a dim ond pum safle yn uwch na Liechtenstein! Mae hyd yn oed Cuba tri safle ar ddeg yn uwch!

Ychydig o flynyddoedd yn ôl, roedd Ynysoedd y Faro yn chwarae yn gystadleuol yn erbyn Ynys Môn yng ngemau'r ynysoedd! Ydi, mae'r gwymp yn enfawr?
Ond ydi hyn yn syndod?

Mae llawer ohonom wedi cwyno, fwy nag unwaith, fod gormod o chwaraewr rhyngwladol Cymru yn tynnu allan o gemau cyfeillgar , am bob math o resymau, gan adael rhyw dîm ceiniog a dimau i'n cynrychioli ar hyd a lled y cyfandir. Mae rhywun yn dod i gredu hwyrach fod y chwaraewyr wedi cael eu dethol fel ag y maen't yn ei haeddu!

Ceir cefnogaeth ffyddlon i'n tîm cenedlaethol gan bob math o ddilynwyr, a phetai rhestr o ddetholion ar gael sydd yn cyfeirio at yr ymrwymiad mae rhai ohonynt yn rhoi i'w gwlad yna byddai pethau yn edrych dipyn yn wahanol.

Rwyf eisoes wedi cael fy ngwawdio am feiddio a dweud fod David Beckham wedi bod yn esiampl dda o rywun a fyddai'n rhoi ei orau dros ei wlad - ymateb llawer oedd creu stŵr- och a gwau a meiddio honni y gall ymroddiad Sais fod yn esiampl dda i'w ddilyn.
Does dim golwg o Loegr yn disgyn i lawr tabl y detholion, a cholli gemau oherwydd diffyg diddordeb neu absenoldeb ymysg eu chwaraewyr hwy!

Hwyrach y dylai chwaraewyr Cymru ddeall yn hollol glir, ein bod fel cefnogwyr, yn disgwyl llawer mwy o ymroddiad ganddynt i'w gwlad, ar gyfer pob gem, boed hynny'n gemau cyfeillgar neu gystadleuol. Byddai'r gemau yn darparu'r tim yn well, dod a chwaraewyr i adnabod ei gilydd yn well, a hefyd yn dangos mwy o barch tuag at y cefnogwyr sydd mor barod i ddilyn y tîm ar hyd a lled Ewrop.

Ar y llaw arall, os ydi dewis Sais fel esiampl i'w ddilyn yn cythryblu pobol Cymru, ac mae llawer ohonom yn hollol fodlon ein byd wrth ymfalchïo yn y cysyniad ein bod yn ddioddefwyr ac y cael ein gormesu yn ormodol, yna hwyrach y gallant fyw efo'r ffaith nad yw ein tîm ddim gwell yn llygaid y cyhoedd nac Ynysoedd Cape Verde sydd yn dri safle ar hugain uwch ein pennau!

Wedi'r cwbl, hwyrach mai'r pechod mwyaf ydi rhywun fel fi yn meiddio ein cymharu â Lloegr!

Mae'n hen bryd i chwaraewyr Cymru ddilyn esiampl y cefnogwyr a dangos tipyn o ymroddiad.

Hwyrach y gall hyn ddechrau efo'r tîm i wynebu Awstralia ar Awst 10fed.

Diddorol fyddai gweld pwy fydd ar gael!

Peldroed yng Nghymru - cystal ag y gallai fod?

Glyn Griffiths|12:28, Dydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Pan ail-drefnwyd y dull o gynnal Uwchgynghrair Cymru, un o'r amcanion (os nad y prif nôd) oedd codi safon ein timau yn Ewrop drwy wneud y gynghrair ei hun yn fwy cystadleuol. Does dim amheuaeth fod yna fwy o gystadlu wedi bod drwy'r tymor i ennill yr hawl i chwarae yn Ewrop, ond unwaith y cyrhaeddwyd tir yr addewid, roedd y canlyniadau yn siomedig - heblaw am lwyddiant y Seintiau Newydd dros Cliftonville o Ogledd Iwerddon.

Codwyd gobeithion pawb wrth i Lanelli guro Dinamo Tbilisi ar Barc y Scarlets, ond daeth dôs o realiti yng ngemau'r ail gymal wrth i Fangor gael eu chwalu yn y Ffindir, cyn gweld y Seintiau a hefyd Llanelli yn disgyn oddi cartref a Chastell Nedd yn cwympo ar y cynnig cyntaf.

Mae'r sefyllfa yn fy atgoffa o'r ffilm 'As Good As It Gets' pan mae'r cymeriad gaiff ei bortreadu gan Jack Nicholson yn troi at grŵp o gleifion seiciatrig isel eu hysbryd a gofyn iddynt beth petai eu cyflwr presennol cystal ag y gallai pethau fod iddynt!?

Ydi'r canlyniadau diweddar yn Ewrop yn dangos mai dyma gyflwr presennol y gem yng Nghymru, a bod pethau cystal ag y gallant fod o ystyried maint Cymru fel gwlad, maint y trefi sydd yn ceisio cynnal timau yn yr Uwchgynghrair, a hefyd o ystyried fod ein timau gorau o'r trefi mwyaf poblog oll yn chwarae yn Lloegr?

Mae rheolwr Bangor, Neville Powell a'r capten James Brewerton, wedi cyfeirio at y ffaith fod môr o wahaniaeth rhwng lefel ffitrwydd chwaraewyr Helsinki a lefel ffitrwydd chwaraewyr Bangor yn y gêm ail gymal yn y Ffindir. Os felly, oni ddylid ystyried newid ychydig eto ar drefn yr Uwchgynghrair a chychwyn y tymor llawer yn gynt er mwyn ceisio sicrhau gwell safonau ffitrwydd y timau o'i gymharu â thimau Ewropeaidd?

Tybed a fyddai gwelliant yn y maes yma yn cyfrannu at welliant yn y canlyniadau?

Ond haws yw dweud na gwneud - a bydd hyn mae'n debyg, ond yn creu dadlau a gwrthdaro eto, sydd yn ymddangos yn rhan hollol feunyddiol o fywyd y byd peldroed yng Nghymru!

Ond, fel yr awgrymais ar y cychwyn, hwyrach, yn ol tystiolaeth canlyniadau, rhaid derbyn fod cyflwr presennol peldroed Uwchgynghrair Cymru cystal ag y gallai fod!

Os felly, be' wedyn?

Llanelli, Bangor a'r Seintiau yn Ewrop

Glyn Griffiths|11:42, Dydd Llun, 18 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Sylw'r wythnos i dimau Cymru yn Ewrop a'r clod i gyd i Lanelli. Llwyddodd tîm tref y sosban i guro un o gewri mwyaf dwyrain Ewrop - Dinamo Tbilisi o ddwy gol ( diolch i Jordan Follows) i un, gan osod gobaith realistig iddynt eu hunain ar gyfer yr ail gymal.

Ond, fel yn ffeinal Cwpan Cymru, pitw oedd y dyrfa a ddaeth i gefnogi tîm Andy Legg (ychydig dros bum cant). ,Fe ddylai pobol Llanelli a'r ardal fod â chywilydd o'u hunain yn eu methiant i gefnogi perfformiad gorau, o bosibl, gan dîm o Gymru ar lefel Ewropeaidd yn y blynyddoedd diweddar.

Roedd Legg wedi bod yn feirniadol iawn o benderfyniad Cymdeithas Bel-droed Cymru i adael i'r alltudion, Wrecsam a Chasnewydd, ddychwelyd i gystadlu yng Nghwpan Cymru'r tymor nesaf, gan gredu y byddai yn lleihau gobeithion timau'r Uwchgynghrair rhag llwyddo.

A'r dystiolaeth ar ol perfformiad Llanelli yn erbyn Dinamo, does dim lle i Legg ofidio!

Ymdrechodd y Seintiau Newydd a Bangor yn ddewr yn erbyn timau trefnus, ond roedd cryfder a hyblygrwydd chwarae HJK Helsinki yn llawer gormod i Fangor, gyda'r tîm o'r Ffindir yn ennill o dair gôl i ddim.

Er i'r Seintiau fynd ar y blaen yn erbyn Midtjylland o Denmark, llwyddodd yr ymwelwyr i ddod yn gyfartal cyn i'r Seintiau ildio'r ail yn dilyn cic o'r smotyn dadleuol iawn yn hwyr yn y gêm, a Midtjylland yn cipio'r drydydd yn eiliadau olaf y gêm.

Canmoliaeth haeddiannol felly i Lanelli, a chyda pum chwaraewr yn dychwelyd ar ôl gwaharddiadau, fe all Llanelli edrych ymlaen am y daith i Georgia yn eithaf hyderus.


Pwysau ar dîm o Gymru yn Ewrop? Profiad newydd!

Ymarferion dechrau tymor

Glyn Griffiths|14:33, Dydd Llun, 4 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Mae'r amser wedi cyrraedd pan fydd timau pêl-droed yn ystyried y fath o ymarferion i'w cynnal ar gyfer darparu ar gyfer y tymor newydd.


Yr arferiad traddodiadol ydi rhedeg llawer, er mwyn sicrhau ffitrwydd, a dyna fydd nod llawer o hyfforddwyr, yna gwell cryfder, cyflymder, ac hyblygrwydd.


Ond erbyn heddiw mae ymarfer cyn dechrau tymor yn llawer mwy soffistigedig.


Pan oeddwn yn ifanc rhedeg, rhedeg a rhedeg eto oedd y drefn - i fyny elltydd, dros domeni tywod, ac i bobman arall ble nad oedd unrhyw olwg o gae pêl-droed na phêl chwaith!


Erbyn heddiw mae hyfforddiant yn ceisio cyfuno darparu yn feddyliol yn ogystal ac yn gorfforol.
Ceir llawer o'r ymarferion buan yng nghyd-destun sut i weithio gyda'r bêl, ymateb i symudiadau a gwneud dewisiadau yn ogystal â chreu problemau i'r gwrthwynebwyr.


Rwy'n cofio'n iawn cael fy nghyhuddo o beidio ag ymarfer yn briodol unwaith am nad oedd yna ddigon o redeg yn cael ei gynnwys ac na ddylai chwaraewyr weld pêl am o leiaf pythefnos. Gweledigaeth fer, gan rai na fu erioed yn meddwl llawer am y gêm, na chwaith yn ei chwarae i unrhyw safon oedd hyn.
Oes mae angen rhedeg ac amrywio'r cyflymder.

Mae ymchwil wedi profi fod pêl-droedwyr yn rhedeg tua 12 cilomedr (7 milltir neu fwy) mewn gêm a hynny ar wahanol gyflymder - ac nad oes unrhyw un yn gwibio mwy nag ugain medr yn ystod gêm.
Mae mwy o waith yn cael ei wneud gyda'r bêl hefyd, gan wella sgiliau chwaraewyr a dod â hwy yn fwy cyffyrddus a hyblyg eu gallu i drin pêl.

Yn y clybiau mawr fe geir ymchwil gwyddoniaeth chwaraeon i benderfynu sut i gynnal sesiynau - gyda'r ymarferion yn aml yn cael eu darparu ar gyfer anghenion personol pob chwaraewr.

Yn ogystal â hyn, ceir gemau cyfeillgar - gyda'r clybiau bychain yn eisio cael gêm neu ddwy sydd yn ddeniadol a fyddai'n denu torf er mwyn creu diddordeb. Y broblem ydi petai'r tîm yn colli gormod yn y gemâu paratoadol, er bod pobol yn mynnu nad y canlyniad sydd bwysig yr adeg yma o'r tymor!


Rhaid sicrhau na fyddai hyder yn cael ei golli ar draul ceisio creu elw. Felly, mae angen cydbwyso'r math o wrthwynebwyr sydd i'w chwarae yn eu herbyn er mwyn sicrhau llwyddiant a chodi safonau ar gyfer gêm gyntaf gystadleuol y tymor.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.