Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ymarferion dechrau tymor

Glyn Griffiths|14:33, Dydd Llun, 4 Gorffennaf 2011

Mae'r amser wedi cyrraedd pan fydd timau pêl-droed yn ystyried y fath o ymarferion i'w cynnal ar gyfer darparu ar gyfer y tymor newydd.


Yr arferiad traddodiadol ydi rhedeg llawer, er mwyn sicrhau ffitrwydd, a dyna fydd nod llawer o hyfforddwyr, yna gwell cryfder, cyflymder, ac hyblygrwydd.


Ond erbyn heddiw mae ymarfer cyn dechrau tymor yn llawer mwy soffistigedig.


Pan oeddwn yn ifanc rhedeg, rhedeg a rhedeg eto oedd y drefn - i fyny elltydd, dros domeni tywod, ac i bobman arall ble nad oedd unrhyw olwg o gae pêl-droed na phêl chwaith!


Erbyn heddiw mae hyfforddiant yn ceisio cyfuno darparu yn feddyliol yn ogystal ac yn gorfforol.
Ceir llawer o'r ymarferion buan yng nghyd-destun sut i weithio gyda'r bêl, ymateb i symudiadau a gwneud dewisiadau yn ogystal â chreu problemau i'r gwrthwynebwyr.


Rwy'n cofio'n iawn cael fy nghyhuddo o beidio ag ymarfer yn briodol unwaith am nad oedd yna ddigon o redeg yn cael ei gynnwys ac na ddylai chwaraewyr weld pêl am o leiaf pythefnos. Gweledigaeth fer, gan rai na fu erioed yn meddwl llawer am y gêm, na chwaith yn ei chwarae i unrhyw safon oedd hyn.
Oes mae angen rhedeg ac amrywio'r cyflymder.

Mae ymchwil wedi profi fod pêl-droedwyr yn rhedeg tua 12 cilomedr (7 milltir neu fwy) mewn gêm a hynny ar wahanol gyflymder - ac nad oes unrhyw un yn gwibio mwy nag ugain medr yn ystod gêm.
Mae mwy o waith yn cael ei wneud gyda'r bêl hefyd, gan wella sgiliau chwaraewyr a dod â hwy yn fwy cyffyrddus a hyblyg eu gallu i drin pêl.

Yn y clybiau mawr fe geir ymchwil gwyddoniaeth chwaraeon i benderfynu sut i gynnal sesiynau - gyda'r ymarferion yn aml yn cael eu darparu ar gyfer anghenion personol pob chwaraewr.

Yn ogystal â hyn, ceir gemau cyfeillgar - gyda'r clybiau bychain yn eisio cael gêm neu ddwy sydd yn ddeniadol a fyddai'n denu torf er mwyn creu diddordeb. Y broblem ydi petai'r tîm yn colli gormod yn y gemâu paratoadol, er bod pobol yn mynnu nad y canlyniad sydd bwysig yr adeg yma o'r tymor!


Rhaid sicrhau na fyddai hyder yn cael ei golli ar draul ceisio creu elw. Felly, mae angen cydbwyso'r math o wrthwynebwyr sydd i'w chwarae yn eu herbyn er mwyn sicrhau llwyddiant a chodi safonau ar gyfer gêm gyntaf gystadleuol y tymor.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.