Llanelli, Bangor a'r Seintiau yn Ewrop
Sylw'r wythnos i dimau Cymru yn Ewrop a'r clod i gyd i Lanelli. Llwyddodd tîm tref y sosban i guro un o gewri mwyaf dwyrain Ewrop - Dinamo Tbilisi o ddwy gol ( diolch i Jordan Follows) i un, gan osod gobaith realistig iddynt eu hunain ar gyfer yr ail gymal.
Ond, fel yn ffeinal Cwpan Cymru, pitw oedd y dyrfa a ddaeth i gefnogi tîm Andy Legg (ychydig dros bum cant). ,Fe ddylai pobol Llanelli a'r ardal fod â chywilydd o'u hunain yn eu methiant i gefnogi perfformiad gorau, o bosibl, gan dîm o Gymru ar lefel Ewropeaidd yn y blynyddoedd diweddar.
Roedd Legg wedi bod yn feirniadol iawn o benderfyniad Cymdeithas Bel-droed Cymru i adael i'r alltudion, Wrecsam a Chasnewydd, ddychwelyd i gystadlu yng Nghwpan Cymru'r tymor nesaf, gan gredu y byddai yn lleihau gobeithion timau'r Uwchgynghrair rhag llwyddo.
A'r dystiolaeth ar ol perfformiad Llanelli yn erbyn Dinamo, does dim lle i Legg ofidio!
Ymdrechodd y Seintiau Newydd a Bangor yn ddewr yn erbyn timau trefnus, ond roedd cryfder a hyblygrwydd chwarae HJK Helsinki yn llawer gormod i Fangor, gyda'r tîm o'r Ffindir yn ennill o dair gôl i ddim.
Er i'r Seintiau fynd ar y blaen yn erbyn Midtjylland o Denmark, llwyddodd yr ymwelwyr i ddod yn gyfartal cyn i'r Seintiau ildio'r ail yn dilyn cic o'r smotyn dadleuol iawn yn hwyr yn y gêm, a Midtjylland yn cipio'r drydydd yn eiliadau olaf y gêm.
Canmoliaeth haeddiannol felly i Lanelli, a chyda pum chwaraewr yn dychwelyd ar ôl gwaharddiadau, fe all Llanelli edrych ymlaen am y daith i Georgia yn eithaf hyderus.
Pwysau ar dîm o Gymru yn Ewrop? Profiad newydd!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 