Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Peldroed yng Nghymru - cystal ag y gallai fod?

Glyn Griffiths|12:28, Dydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2011

Pan ail-drefnwyd y dull o gynnal Uwchgynghrair Cymru, un o'r amcanion (os nad y prif nôd) oedd codi safon ein timau yn Ewrop drwy wneud y gynghrair ei hun yn fwy cystadleuol. Does dim amheuaeth fod yna fwy o gystadlu wedi bod drwy'r tymor i ennill yr hawl i chwarae yn Ewrop, ond unwaith y cyrhaeddwyd tir yr addewid, roedd y canlyniadau yn siomedig - heblaw am lwyddiant y Seintiau Newydd dros Cliftonville o Ogledd Iwerddon.

Codwyd gobeithion pawb wrth i Lanelli guro Dinamo Tbilisi ar Barc y Scarlets, ond daeth dôs o realiti yng ngemau'r ail gymal wrth i Fangor gael eu chwalu yn y Ffindir, cyn gweld y Seintiau a hefyd Llanelli yn disgyn oddi cartref a Chastell Nedd yn cwympo ar y cynnig cyntaf.

Mae'r sefyllfa yn fy atgoffa o'r ffilm 'As Good As It Gets' pan mae'r cymeriad gaiff ei bortreadu gan Jack Nicholson yn troi at grŵp o gleifion seiciatrig isel eu hysbryd a gofyn iddynt beth petai eu cyflwr presennol cystal ag y gallai pethau fod iddynt!?

Ydi'r canlyniadau diweddar yn Ewrop yn dangos mai dyma gyflwr presennol y gem yng Nghymru, a bod pethau cystal ag y gallant fod o ystyried maint Cymru fel gwlad, maint y trefi sydd yn ceisio cynnal timau yn yr Uwchgynghrair, a hefyd o ystyried fod ein timau gorau o'r trefi mwyaf poblog oll yn chwarae yn Lloegr?

Mae rheolwr Bangor, Neville Powell a'r capten James Brewerton, wedi cyfeirio at y ffaith fod môr o wahaniaeth rhwng lefel ffitrwydd chwaraewyr Helsinki a lefel ffitrwydd chwaraewyr Bangor yn y gêm ail gymal yn y Ffindir. Os felly, oni ddylid ystyried newid ychydig eto ar drefn yr Uwchgynghrair a chychwyn y tymor llawer yn gynt er mwyn ceisio sicrhau gwell safonau ffitrwydd y timau o'i gymharu â thimau Ewropeaidd?

Tybed a fyddai gwelliant yn y maes yma yn cyfrannu at welliant yn y canlyniadau?

Ond haws yw dweud na gwneud - a bydd hyn mae'n debyg, ond yn creu dadlau a gwrthdaro eto, sydd yn ymddangos yn rhan hollol feunyddiol o fywyd y byd peldroed yng Nghymru!

Ond, fel yr awgrymais ar y cychwyn, hwyrach, yn ol tystiolaeth canlyniadau, rhaid derbyn fod cyflwr presennol peldroed Uwchgynghrair Cymru cystal ag y gallai fod!

Os felly, be' wedyn?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.