Help / Cymorth

Archifau Mai 2011

Sylw hanesyddol i Abertawe

Categorïau:

Glyn Griffiths|12:39, Dydd Mawrth, 24 Mai 2011

Sylwadau (0)

Gyda'r sylw i gyd ar Abertawe'r penwythnos yma, hwyrach mai dyma'r adeg inni gofio digwyddiad arloesol yn eu hanes nag ŵyr llawer amdano.

Rhaid mynd yn ôl i 1915, a'r rhyfel Byd Cyntaf wedi cychwyn.

Roedd peldroed wedi parhau gyda phawb yn credu na fyddai'r rhyfel yn parhau am hir - popeth drosto erbyn y Nadolig oedd y gred.

Ond, wrth gwrs, nid felly oedd pethau, ac er bod llawer yn ystyried y gêm fel rhywbeth i gadw diddordeb y cyhoedd oddi wrth y rhyfel, newidiwyd y ddelwedd wrth i filoedd ar filoedd o deuluoedd sylweddoli nad oedd eu hanwyliaid am ddychwelyd o'r ffosydd a'r brwydro.

Yn erbyn y cefndir yma o ddadrithio, daeth llawer o bobol i ystyried peldroedwyr nad aeth i ryfel fel llwfrgwn ac mae'r agwedd a'r cefndir yma wedi cael effaith fawr ar anhysbysrwydd y stori am lwyddiant cynnar Abertawe.

Wynebodd Abertawe, a gafodd eu ffurfio fel clwb yn 1912, gewri a phencampwyr yr Adran Gyntaf, Blackburn Rovers yng Nghwpan Lloegr ar gae'r Vetch ar y 9fed o Ionawr 1915.

Tîm yng nghynghrair De Lloegr, oedd Abertawe, a doedd yr un tîm o'r tu allan i'r ddau brif gynghrair beldroed Lloegr erioed wedi llwyddo yn erbyn cewri'r gêm, ac felly doedd neb wedi rhoi unrhyw obaith i Abertawe.

Fodd bynnag, gyda'r blaenwr Benny Beynon yn sgorio unig gol y gêm, fe greodd Abertawe hanes, a hwy, yn sgil y fuddugoliaeth yma oedd y tîm cyntaf y tu allan i brif gynghreiriau Lloegr, i guro tîm o'r adran gyntaf yn y Gwpan.

Agorodd Abertawe'r drws ar gyfer rhamant a chanlyniadau annisgwyl y dyfodol.

Tybed a fyddant yn agor y drws a fydd yn eu gwahodd i'r Uwchgynghrair brynhawn Llun?

Cei Connah

Glyn Griffiths|09:12, Dydd Mercher, 18 Mai 2011

Sylwadau (0)

Faint o weithiau rhaid gwneud y sylw nad oes dim byd yn syml ym myd pêl-droed Cymru?

Y diweddaraf i gymhlethu'r drefn ydi sefyllfa clwb Cei Connah a lwyddodd i ennill Cynghrair Huws Grey y Gogledd ac felly yn dod yn gymwys i fod yn aelodau o Uwchgynghrair Cymru'r tymor nesaf.

Ond och a gwau - chafodd Cei Connah mo'r drwydded angenrheidiol i ennill dyrchafiad!

Sail y methiant, yn ôl y son, ydi nad oedd y clwb wedi cwblhau'r gwelliant angenrheidiol ar lifoleuadau'r stadiwm erbyn y dyddiad penodedig.

Serch hynny, mae'r clwb yn honni eu bod wedi cael gwybod, (gan na allai'r cwmni a oedd yn gyfrifol am osod y goleuadau erbyn y dyddiad gwreiddiol), y byddai'n popeth yn dderbyniol os gallai'r goleuadau fod yn eu lle cyn dyddiad eu hapêl.

Ac felly y bu.

Tipyn o sioc felly oedd deall eu bod wedi cael eu gwrthod, ar sail, eto yn yr honiad, nad oedd y goleuadau wedi eu gosod erbyn y dyddiad gwreiddiol.

Ie, cymhleth iawn, os mai dyma'r stori!

Felly, ymddengys fod camau cyfreithiol am gael eu dilyn gan Gei Connah er mwyn datrys y broblem.

Yn y cyfamser, mae clwb y Bala sydd wedi credu y byddant yn cael aros yn yr Uwchgynghrair am dymor arall yn gorfod chwysu cyn clywed tynged Cei Connah!

Onid ydi yn hen amser inni gael ail adran (un y De a'r llall yn y gogledd) o'r Uwchgynghrair a bod y math o broblemau a welir ar Lannau Dyfrdwy yn cael eu datrys ymhell cyn diwedd y tymor?

Ymddengys hefyd nad yw clwb Bryntirion Athletic, enillwyr Cynghrair MacWhirter y De ddim yn awyddus i gael dyrchafiad i'r Uwchgynghrair ( newyddion da i Afan Lido), .

Onid yw'n amser i gael cynghrair( fel ail adran) sydd yn bwydo i'r Uwchgynghrair , sydd yn cynnwys timau sydd a'r dymuniad i gamu ymlaen, ac nid ennill cynghrair ac yna cyhoeddi nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn cael dyrchafiad?

Ydi hyn yn digwydd mewn unrhyw wlad arall?

Yng ngeiriau Ifas y Tryc - "Scarcely believe!"

Penwythnos y Cup Final

Categorïau:

Glyn Griffiths|10:54, Dydd Gwener, 13 Mai 2011

Sylwadau (0)

Penwythnos y Cup Final, a phan oeddwn yn ifanc, dyma oedd un, os nad y, penwythnos pwysicaf yn y byd peldroed.

Ennill Cwpan y F.A. oedd popeth, a doedd ennill yr hen Adran gyntaf yn ddim i'w gymharu.

Y Cup Ffeinal hefyd oedd tarddiad chwedlonwyr y gêm - Stanley Matthews yn 1953 yn arwain Blackpool i guro Bolton. Cymaint oedd pwysigrwydd y fuddugoliaeth yma nes i'r bardd Selwyn Griffith ddefnyddio llwyddiant Matthews fel sail i'w gerdd arobryn lwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy yn 1989 ar y testun 'Arwyr'. Cynnwys y gerdd elfennau atgofus a hiraethus am ddyddiau aur y gêm, ac atgofion cynnar am ddewin y bêl, Stanley Matthews. Creodd dewin y geiriau o Benisa'r-waun, gampwaith wrth ddisgrifio Matthews yn creu'r gôl dyngedfennol i Blackpool yn ffeinal 1953 yn erbyn Bolton Wanderers, o dan dyrrau Wembley gan weld "cyffro, gwefr, gwyrth a gorfoledd - telyneg o gôl" a'i "wyneb o wêr, yn sglein o lawenydd, wrth glensio'i fedal".

Cafwyd cewri eraill hefyd nas canwyd amdanynt ,megis y golwr Bert Trautmann, Almaenwr a gafodd ei fagu o dan ddylanwad mudiad yr Hitler Youth yn y tri degau, ond a gafwyd ei ddal a'i garcharu mewn camp POW ar gyrion Manceinion. Ar ddiwedd y rhyfel dechreuodd chwarae i glwb St Helens, cyn cael ei arwyddo gan Manchester City, cyrraedd y Ffeinal yn 1955 a cholli i Newcastle United, yna yn ôl y flwyddyn ddilynol a churo Birmingham City. Ond doedd y fuddugoliaeth ddim heb ei phris gyda Thrautmann yn torri ei wddf wrth arbed wrth draed y blaenwr Peter Murphy, chwarter awr cyn y diwedd. Gwrthododd Trautmann a gadael y maes ( doedd neb yn gwybod ar y pryd ei fod wedi torri ei wddf) a chwaraeodd hyd y diwedd gan sicrhau buddugoliaeth o dair gôl i un.

Yn 1958, gwelwyd Manchester United, yn erbyn pob disgwyliad yn dilyn damwain ym maes awyr Munich ym mis Chwefror, yn cyrraedd ar gefn cefnfor o gefnogaeth a chydymdeimlad ond yn colli i Bolton a gweld Nat Lofthouse yn gwthio'r golwr Harry Gregg a'r bêl dros y llinell gôl yn ddadleuol.

Osbourne a Talbot (West Bromwich Albion) a curodd West Ham yn ffeinal 1968

Llwyddodd, Tottenham Hotspur , yn 1961, i gyflawni'r dwbl, (wrth guro Caerlŷr, diolch i goliau Bobby Smith a Terry Dyson), rhywbeth nad oed unrhyw dim wedi ei gyflawni yn yr ugeinfed ganrif, a dim ond Aston Villa yn 1897 a Preston North End yn 1889, wedi ei gyflawni cyn hynny. Yna yn 1999, Manchester United yn cyflawni'r gamp lawn o ennill Uwchgynghrair Lloegr, Cwpan y F.A. a hefyd Cwpan Pencampwyr Ewrop, ( curo Newcastle o ddwy gôl i ddim yn Wembley cyn curo Bayern Munich mewn ffeinal Ewropeaidd gofiadwy yn Barcelona)

Cofiwn gôl wefreiddiol Ricky Villa i Tottenham Hotspur yn erbyn Manchester City, buddugoliaeth Wimbledon dros Lerpwl, ffeinal Glannau Merswy yn dilyn trychineb Hillsborough, arbediad Jim Montgomery yn sicrhau buddugoliaeth i Sunderland dros Leeds, a'r plismon hwnnw a efelychodd y Keystone Cops wrth iddo syrthiodd ar ei wyneb tra'n ceisio dal cefnogwr Everton a aeth dros ben llestri ar y cae wrth i'r gleision guro Sheffield Wednesday yn 1966!

Ie, dyna'r math o hiraeth sydd gen i am Ffeinals Wembley. Y math o obsesiwn efallai a arweiniodd fi i enwi cath gyda'r enw Tommy Smith, gan mai ar y dydd a welodd Lerpwl yn curo Newcastle o dair gôl i ddim y daeth yr anifail anwes fechan yma i fyw i'n tŷ ni, a Tommy Smith, capten Lerpwl, yn codi'r Gwpan wrth i'r gath groesi'r trothwy!

Ond eleni beth ydi pris y Gwpan?

Ydi'r Gymdeithas Beldroed wedi sarhau a difrïo traddodiad a chwedloniaeth cystadleuaeth eu hunain wrth benderfynu y dylai gemau yn yr Uwchgynghrair gael eu chwarae ar yr un dydd?

Amser cinio yfory, fe all Manchester United gipi'r Uwchgynghrair llai nac awr cyn i Manchester City roi eu traed ar dir sanctaidd Wembley.

I un a fu yn cael brecwast eto timau'r Cup Ffeinal, yn dilyn eu taith i Wembley , yn gweld pob cyfweliad posibl cyn y gêm, ac yn cael ei ysbarduno gan gymanfa emosiynol o Abide With Me wrthy i'r timau ymddangos ar y maes, mae rhywun yn rhywle wedi dangos fod traddodiad yr achlysur yn cyfrif i ddim y byd materol cyfoes.

Cwpan yr FA

Oes yna ddyfodol i'r Gwpan?

Oes yna barch i'r gêm mwyach yntau a ydi arian cyfoeth y perchnogion tramor yn tarddu ar bopeth a ddengys y glendid a fu er mwyn sicrhau i'r dyfodol yr elw ariannol?

Fe dorrodd un Almaenwr ei wddf yn enw'r Gwpan, ac fe enillwyd gwobr Eisteddfod Genedlaethol gardd fardd yng Nghymru ar sail rhamant y Gwpan.

Ydi'r Gymdeithas Beldroed yn fodlon torri ar eu cynlluniau presennol er mwyn adennill rhamant a hudoliaeth y Ffeinal sydd wedi diflannu erbyn heddiw mewn môr o chwant a hunanoldeb trahaus y byd materol ?

Dyfodol y Seintiau

Glyn Griffiths|14:28, Dydd Iau, 5 Mai 2011

Sylwadau (0)

Ymddengys fod perchennog y Seintiau Newydd, Mike Harris, yn anhapus gyda pherfformiad ei dim a hefyd gyda rheolaeth y tîm, yn dilyn perfformiad y Seintiau yng ngêm allweddol Uwchgynghrair Cymru, oddi cartref ym Mangor yr wythnos diwethaf.

Gyda'i dim sydd wedi dangos safon uchel o beldroed drwy'r tymor a chyda Mike Davies y rheolwr yn dangos ei fod cystal os nad gwell na'r rhan helaeth o reolwyr yn yr Uwchgynghrair, dwi'n synnu'n fawr at eiriau Mr Harris.

Onid gwell fyddai i Mr Harris ofyn pam nad oes ond ychydig o gefnogwyr yn trafferthu dod i weld y Seintiau yn chwarae?

Os mai dyletswydd y tîm a'r rheolwr ydi perfformio ar y cae, yna cyfrifoldeb pwy ydi annog y gymdogaeth leol i gefnogi'r tîm, a denu mwy na rhyw ddau gant o gefnogwyr i weld y Seintiau yn chwarae?

Beth ar wyneb y ddaear all Mike Davies a thîm Y Seintiau ei wneud i ddenu cefnogaeth eang o ardal Croesoswallt, wn i ddim.

Mae safon eu peldroed wedi bod yn uchel. Cafwyd rhediad da yng nghwpan Ewrop( rhywbeth nad oedd y Seintiau wedi ei gyflawni o'r blaen) a doedd neb yn cwyno pan ddaeth swm o arian enfawr i mewn i'r clwb yn sgil y fuddugoliaeth dros y Bohemiaid o Ddulyn.

Os ydi Mr Harris yn ystyried dyfodol y Seintiau, fel ac y mae wedi ei awgrymu mewn erthygl ar wefan Welsh-Premier.com, yna hwyrach y dylid ystyried faint o barch sydd gan yr ardal i'r tîm!

Dwi eisoes wedi clywed y Seintiau yn cael eu cyfeirio atynt fel y tîm sydd yn cynrychioli sir Amwythig yn un o'r cyfryngau. A finnau'n meddwl mai cynrychioli Cymru yr oeddynt!
Mae Croesoswallt wedi bod yn rhan annatod erioed o ddatblygiad cynnar peldroed Cymru - ond ydi trigolion Croesoswallt yn gweld eu hunain fel rhan o beldroed Cymru erbyn heddiw?

Gyda dim llawer mwy na rhyw ddwy gant o gefnogwyr yn gweld y Seintiau yn chwarae adref, onid gwell fyddai iddynt godi pac, a symud i ardal arall, o fewn Cymru, ble caiff y tîm a'r rheolwr talentog yma eu gwerthfawrogi yn well?

Hwyrach y byddai hyn yn fan cychwyn gwell i Mr Harris ei ystyried na lladd ar ymdrechion tîm sydd wedi rhoi llwyfan teilwng iddo o fewn Cymru, ac o fewn Ewrop yn ehangach.

A hwyrach byddai aros yn Llansantffraid, ble roedd parch mawr i'r tim lleol, wedi bod yn well opsiwn!

Na farno fel na'ch bernir Mr Harris.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.