Penwythnos y Cup Final
Penwythnos y Cup Final, a phan oeddwn yn ifanc, dyma oedd un, os nad y, penwythnos pwysicaf yn y byd peldroed.
Ennill Cwpan y F.A. oedd popeth, a doedd ennill yr hen Adran gyntaf yn ddim i'w gymharu.
Y Cup Ffeinal hefyd oedd tarddiad chwedlonwyr y gêm - Stanley Matthews yn 1953 yn arwain Blackpool i guro Bolton. Cymaint oedd pwysigrwydd y fuddugoliaeth yma nes i'r bardd Selwyn Griffith ddefnyddio llwyddiant Matthews fel sail i'w gerdd arobryn lwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy yn 1989 ar y testun 'Arwyr'. Cynnwys y gerdd elfennau atgofus a hiraethus am ddyddiau aur y gêm, ac atgofion cynnar am ddewin y bêl, Stanley Matthews. Creodd dewin y geiriau o Benisa'r-waun, gampwaith wrth ddisgrifio Matthews yn creu'r gôl dyngedfennol i Blackpool yn ffeinal 1953 yn erbyn Bolton Wanderers, o dan dyrrau Wembley gan weld "cyffro, gwefr, gwyrth a gorfoledd - telyneg o gôl" a'i "wyneb o wêr, yn sglein o lawenydd, wrth glensio'i fedal".
Cafwyd cewri eraill hefyd nas canwyd amdanynt ,megis y golwr Bert Trautmann, Almaenwr a gafodd ei fagu o dan ddylanwad mudiad yr Hitler Youth yn y tri degau, ond a gafwyd ei ddal a'i garcharu mewn camp POW ar gyrion Manceinion. Ar ddiwedd y rhyfel dechreuodd chwarae i glwb St Helens, cyn cael ei arwyddo gan Manchester City, cyrraedd y Ffeinal yn 1955 a cholli i Newcastle United, yna yn ôl y flwyddyn ddilynol a churo Birmingham City. Ond doedd y fuddugoliaeth ddim heb ei phris gyda Thrautmann yn torri ei wddf wrth arbed wrth draed y blaenwr Peter Murphy, chwarter awr cyn y diwedd. Gwrthododd Trautmann a gadael y maes ( doedd neb yn gwybod ar y pryd ei fod wedi torri ei wddf) a chwaraeodd hyd y diwedd gan sicrhau buddugoliaeth o dair gôl i un.
Yn 1958, gwelwyd Manchester United, yn erbyn pob disgwyliad yn dilyn damwain ym maes awyr Munich ym mis Chwefror, yn cyrraedd ar gefn cefnfor o gefnogaeth a chydymdeimlad ond yn colli i Bolton a gweld Nat Lofthouse yn gwthio'r golwr Harry Gregg a'r bêl dros y llinell gôl yn ddadleuol.

Llwyddodd, Tottenham Hotspur , yn 1961, i gyflawni'r dwbl, (wrth guro Caerlŷr, diolch i goliau Bobby Smith a Terry Dyson), rhywbeth nad oed unrhyw dim wedi ei gyflawni yn yr ugeinfed ganrif, a dim ond Aston Villa yn 1897 a Preston North End yn 1889, wedi ei gyflawni cyn hynny. Yna yn 1999, Manchester United yn cyflawni'r gamp lawn o ennill Uwchgynghrair Lloegr, Cwpan y F.A. a hefyd Cwpan Pencampwyr Ewrop, ( curo Newcastle o ddwy gôl i ddim yn Wembley cyn curo Bayern Munich mewn ffeinal Ewropeaidd gofiadwy yn Barcelona)
Cofiwn gôl wefreiddiol Ricky Villa i Tottenham Hotspur yn erbyn Manchester City, buddugoliaeth Wimbledon dros Lerpwl, ffeinal Glannau Merswy yn dilyn trychineb Hillsborough, arbediad Jim Montgomery yn sicrhau buddugoliaeth i Sunderland dros Leeds, a'r plismon hwnnw a efelychodd y Keystone Cops wrth iddo syrthiodd ar ei wyneb tra'n ceisio dal cefnogwr Everton a aeth dros ben llestri ar y cae wrth i'r gleision guro Sheffield Wednesday yn 1966!
Ie, dyna'r math o hiraeth sydd gen i am Ffeinals Wembley. Y math o obsesiwn efallai a arweiniodd fi i enwi cath gyda'r enw Tommy Smith, gan mai ar y dydd a welodd Lerpwl yn curo Newcastle o dair gôl i ddim y daeth yr anifail anwes fechan yma i fyw i'n tŷ ni, a Tommy Smith, capten Lerpwl, yn codi'r Gwpan wrth i'r gath groesi'r trothwy!
Ond eleni beth ydi pris y Gwpan?
Ydi'r Gymdeithas Beldroed wedi sarhau a difrïo traddodiad a chwedloniaeth cystadleuaeth eu hunain wrth benderfynu y dylai gemau yn yr Uwchgynghrair gael eu chwarae ar yr un dydd?
Amser cinio yfory, fe all Manchester United gipi'r Uwchgynghrair llai nac awr cyn i Manchester City roi eu traed ar dir sanctaidd Wembley.
I un a fu yn cael brecwast eto timau'r Cup Ffeinal, yn dilyn eu taith i Wembley , yn gweld pob cyfweliad posibl cyn y gêm, ac yn cael ei ysbarduno gan gymanfa emosiynol o Abide With Me wrthy i'r timau ymddangos ar y maes, mae rhywun yn rhywle wedi dangos fod traddodiad yr achlysur yn cyfrif i ddim y byd materol cyfoes.

Oes yna ddyfodol i'r Gwpan?
Oes yna barch i'r gêm mwyach yntau a ydi arian cyfoeth y perchnogion tramor yn tarddu ar bopeth a ddengys y glendid a fu er mwyn sicrhau i'r dyfodol yr elw ariannol?
Fe dorrodd un Almaenwr ei wddf yn enw'r Gwpan, ac fe enillwyd gwobr Eisteddfod Genedlaethol gardd fardd yng Nghymru ar sail rhamant y Gwpan.
Ydi'r Gymdeithas Beldroed yn fodlon torri ar eu cynlluniau presennol er mwyn adennill rhamant a hudoliaeth y Ffeinal sydd wedi diflannu erbyn heddiw mewn môr o chwant a hunanoldeb trahaus y byd materol ?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 