Cei Connah
Faint o weithiau rhaid gwneud y sylw nad oes dim byd yn syml ym myd pêl-droed Cymru?
Y diweddaraf i gymhlethu'r drefn ydi sefyllfa clwb Cei Connah a lwyddodd i ennill Cynghrair Huws Grey y Gogledd ac felly yn dod yn gymwys i fod yn aelodau o Uwchgynghrair Cymru'r tymor nesaf.
Ond och a gwau - chafodd Cei Connah mo'r drwydded angenrheidiol i ennill dyrchafiad!
Sail y methiant, yn ôl y son, ydi nad oedd y clwb wedi cwblhau'r gwelliant angenrheidiol ar lifoleuadau'r stadiwm erbyn y dyddiad penodedig.
Serch hynny, mae'r clwb yn honni eu bod wedi cael gwybod, (gan na allai'r cwmni a oedd yn gyfrifol am osod y goleuadau erbyn y dyddiad gwreiddiol), y byddai'n popeth yn dderbyniol os gallai'r goleuadau fod yn eu lle cyn dyddiad eu hapêl.
Ac felly y bu.
Tipyn o sioc felly oedd deall eu bod wedi cael eu gwrthod, ar sail, eto yn yr honiad, nad oedd y goleuadau wedi eu gosod erbyn y dyddiad gwreiddiol.
Ie, cymhleth iawn, os mai dyma'r stori!
Felly, ymddengys fod camau cyfreithiol am gael eu dilyn gan Gei Connah er mwyn datrys y broblem.
Yn y cyfamser, mae clwb y Bala sydd wedi credu y byddant yn cael aros yn yr Uwchgynghrair am dymor arall yn gorfod chwysu cyn clywed tynged Cei Connah!
Onid ydi yn hen amser inni gael ail adran (un y De a'r llall yn y gogledd) o'r Uwchgynghrair a bod y math o broblemau a welir ar Lannau Dyfrdwy yn cael eu datrys ymhell cyn diwedd y tymor?
Ymddengys hefyd nad yw clwb Bryntirion Athletic, enillwyr Cynghrair MacWhirter y De ddim yn awyddus i gael dyrchafiad i'r Uwchgynghrair ( newyddion da i Afan Lido), .
Onid yw'n amser i gael cynghrair( fel ail adran) sydd yn bwydo i'r Uwchgynghrair , sydd yn cynnwys timau sydd a'r dymuniad i gamu ymlaen, ac nid ennill cynghrair ac yna cyhoeddi nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn cael dyrchafiad?
Ydi hyn yn digwydd mewn unrhyw wlad arall?
Yng ngeiriau Ifas y Tryc - "Scarcely believe!"
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 