Sylw hanesyddol i Abertawe
Gyda'r sylw i gyd ar Abertawe'r penwythnos yma, hwyrach mai dyma'r adeg inni gofio digwyddiad arloesol yn eu hanes nag ŵyr llawer amdano.
Rhaid mynd yn ôl i 1915, a'r rhyfel Byd Cyntaf wedi cychwyn.
Roedd peldroed wedi parhau gyda phawb yn credu na fyddai'r rhyfel yn parhau am hir - popeth drosto erbyn y Nadolig oedd y gred.
Ond, wrth gwrs, nid felly oedd pethau, ac er bod llawer yn ystyried y gêm fel rhywbeth i gadw diddordeb y cyhoedd oddi wrth y rhyfel, newidiwyd y ddelwedd wrth i filoedd ar filoedd o deuluoedd sylweddoli nad oedd eu hanwyliaid am ddychwelyd o'r ffosydd a'r brwydro.
Yn erbyn y cefndir yma o ddadrithio, daeth llawer o bobol i ystyried peldroedwyr nad aeth i ryfel fel llwfrgwn ac mae'r agwedd a'r cefndir yma wedi cael effaith fawr ar anhysbysrwydd y stori am lwyddiant cynnar Abertawe.
Wynebodd Abertawe, a gafodd eu ffurfio fel clwb yn 1912, gewri a phencampwyr yr Adran Gyntaf, Blackburn Rovers yng Nghwpan Lloegr ar gae'r Vetch ar y 9fed o Ionawr 1915.
Tîm yng nghynghrair De Lloegr, oedd Abertawe, a doedd yr un tîm o'r tu allan i'r ddau brif gynghrair beldroed Lloegr erioed wedi llwyddo yn erbyn cewri'r gêm, ac felly doedd neb wedi rhoi unrhyw obaith i Abertawe.
Fodd bynnag, gyda'r blaenwr Benny Beynon yn sgorio unig gol y gêm, fe greodd Abertawe hanes, a hwy, yn sgil y fuddugoliaeth yma oedd y tîm cyntaf y tu allan i brif gynghreiriau Lloegr, i guro tîm o'r adran gyntaf yn y Gwpan.
Agorodd Abertawe'r drws ar gyfer rhamant a chanlyniadau annisgwyl y dyfodol.
Tybed a fyddant yn agor y drws a fydd yn eu gwahodd i'r Uwchgynghrair brynhawn Llun?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 