Wembley
A dyna ble roeddwn i ar faes Wembley yn awr anterth Abertawe.
Roedd awyrgylch unigryw a thrydanol yr achlysur i'w flasu yn syth wrth i rywun gerdded allan o orsaf trên Wembley Park - crysau glas cefngogwyr Reading yn cael eu boddi gan don ar ôl ton o grysau du a gwyn Abertawe.
Cerdded i lawr Wembley Way, a Radio Wales yn cyflwyno cyn arwr y Swans, Lee Trundle, a rhaglen Taro'r Post ar Radio Cymru yn cyfleu'r cyffro, y wefr a'r awyrgylch i bawb yng Nghymru, gan gynnwys selogion yr Urdd ar y maes yn Felindre.
Roedd cyn arwr arall o'r Swans yno hefyd, chwaraewr canol cae Cymru a Norwich City, Owain Tudur Jones, yn ei grys du Abertawe a sgarff du a gwyn, tra roedd John Hartson, yn gwneud ei ffordd i'r stadiwm ynghanol crysau'r Jacks.

Roedd dau weinidog yno hefyd - Tecwyn Ifan ac Eirian Wynne yn gweddïo yn dawel am fuddugoliaeth efallai, a'r bardd Robat Powell yn barod i weld yr Elyrch yn cael eu cadeirio yng nghanol ymffrost y cefnogwyr .
Roedd yna ddwy ferch gommon (o Townhill efallai) hefyd a ddaeth i eistedd o'm blaen, yn llawn rhegfeydd ond doedd neb yn malio dim am Tracy Rees na'i ffrind.
Erbyn hanner amser, roedd yn hymns ac arias o'n cwmpas a'r ddwy ferch gommon mae'n debyg yn meddwl y byddai rhaid i hwythau, fel Abertawe, godi eu safon, os am wneud rhywbeth ohoni yn yr Uwchgynghrair y tymor nesaf.
Ond och a gwae - o fewn deng munud roedd Reading wedi sgorio dwywaith!.
Os oedd angen gweddi bersonol cyn dechrau'r gêm, roedd angen i'r ddau weinidog gynnal cyfarfod gweddi gyhoeddus erbyn hyn!
A roedd y ddwy ferch gommon hefyd yn ymddangos fel petaent am ddechrau gweddïo - a hynny am gol arall i Abertawe.
Atebwyd yr alwad, a gweddi gan Tecwyn Ifan efallai, wrth i Scott Sinclair greu curiad yn eu calonnau, fel bandit yr awr, ac yn efelychu Robat Powell, ym mrig hwyrwynt y gêm, wrth gyflawni hat-trick, a chlywed yr hymns ac arias yn cael eu morio mewn cymanfa arall o addoliant.
Ta waeth am yr Eisteddfod. Roedd urdd y cefnogwyr yn gwybod fod y daith i wlad yr addewid am gael ei chyflawni, a daeth nefoedd fach i ni gyd yng nghanol plasty moethus Wembley wrth i dîm y dref wen gyrraedd yr ochor draw i'r mynydd gydag ysbryd Rebeca yn eu gwaed!
Ond cyn gôr-ddathlu - a oes yna bot o bryfaid genwair wedi ei agor efallai?
Ar y daith adre, roedd llinellau ffon y cyfryngau Seisnig yn llawn cenfigen - fod tîm o Gymru wedi cyrraedd Uwchgynghrair Lloegr a pha hawl oedd ganddynt i wneud Hyn?
Yn ogystal roedd cyfeiriad at y drefn o ddisgyblu chwaraewyr - timau Cymru o dan drefn Cymdeithas Beldroed Cymru, y gweddill o dan dref Lloegr.
Ac yn olaf, cyfeiriwyd at y ffaith petai Abertawe yn gorffen yn bedwaredd yn yr Uwchgynghrair ac yn dod yn gymwys i chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop, ar ran Lloegr, yna fe ddylid disgwyl am her gyfreithiol gan dîm a fyddai wedi gorffen yn y pumed safle!
Tymor diddorol o'n blaenau, ac na, does dim byd yn syml yng Nghymru!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 