Help / Cymorth

Archifau Mawrth 2011

Ban i'r baneri

Glyn Griffiths|12:03, Dydd Llun, 28 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Chwifiwn ein baneri yn yr awel iach, ond nid, mae'n ymddangos, mewn gêm bêl-droed rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm!

Y Sadwrn diwethaf, cyn y gêm rhwng Cymru a Lloegr, roeddwn yn eistedd wrth ochor criw o gefnogwyr a oedd wedi gosod baner Gymreig a'i hongian dros ochor blaen yr eisteddle.

Ond na, meddai stiwardiaid y stadiwm - dim baneri - "rydym ond yn dilyn ein gorchmynion!", ac fe gydiwyd yn y faner a'i thynnu ymaith.

Ymddengys fod y faner yn amharu ar hysbysiad a oedd islaw, ac, fel mewn llawer o lefydd eraill, tydi amhariad fel yma hyn ddim yn dderbyniol i gwmnïau sydd yn noddi'r gemau.

Arweiniodd hyn at anniddigrwydd a chwyno pan ofynnodd y cefnogwyr pam, felly, nad oedd baneri Lloegr yn cael eu tynnu i lawr, a rheini, fel baneri Cymru, yn cuddio'r hysbysiadau oddi tanynt?


Yno, yng nghornel Lloegr o'r stadiwm, a heb unrhyw waharddiad nac ymgais i'w tynnu i lawr, roedd llu o faneri Sant Siôr yn hedfan heb unrhyw waharddiad.

Ymddengys fod yna un rheol i Gymru, a rheol arall i Loegr , a hynny yn Stadiwm y Mileniwm, stadiwm bwysicaf ein cenedl.

Croeso i faneri Lloegr, a boed iddynt orchuddio'r hysbysiadau, ond da chi peidiwch â meiddio a cheisio arddangos baneri Cymru yn yr un modd!

A hyn mewn gêm a welodd rhaglen swyddogol Cymdeithas Bêl Droed Cymru yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr y cefnogwyr, drwy gynnwys colofn gan aelodau o Ffederasiwn Cefnogwyr Cymru.

Cynnwys y golofn hefyd lun o gefnogwyr Cymru yn chwifio eu baneri mewn gêm a gynhaliwyd yn yr un stadiwm.

Yn drist iawn , llun yn unig mewn rhaglen a gafwyd o bron pob un o faneri Cymru bnawn Sadwrn a hyn mewn gêm a welodd y rheolwr yn ymdrechu i godi Cymreictod ein tîm cyn y gêm!

Anghofiwch y gôl fuan yna ar ôl saith munud, roedd Lloegr wedi sgorio hyd yn oed cyn i'r gêm ddechrau!

Trist hefyd oedd nodi fod rhywun wedi gallu cael y rhyddid i daenu golau laser i gyfeiriad chwaraewyr Lloegr yn ystod y gêm a gwelwyd smotyn gwyrdd yn glir yn disgleirio ar wyneb Scott Parker wrth iddo adael y maes.

Sut yn y byd y gall unrhyw un allu cael y rhyddid i ddefnyddio golau laser, a chael yr amser i'w anelu at darged penodol, heb i unrhyw stiward ymateb?

Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru yn talu llawer am ddefnyddio Stadiwm y Mileniwm, ac fe ddylai hyn sicrhau fod stiwardiaid effeithiol a chyson eu gweithrediadau yn cael eu cyflogi yno.

Mae'n debyg mai'r Gymdeithas fydd rhaid egluro'r digwyddiad yma ynglŷn â'r laser, a chael eu beirniadu yn annheg oherwydd aneffeithiolrwydd stiwardiaid amaturaidd di-glem.

Stadiwm y Mileniwm? - "You're having a Laugh!"

Cymru v Lloegr

Dylan Jones|14:57, Dydd Gwener, 25 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Dim syndod mai'r gêm yn Stadiwm y Mileniwm fydd yn hawlio'r prif sylw ar ein rhaglen fore Sadwrn.


Osian Roberts gyda Gary Speed

Yn ymuno gyda ni ar y rhaglen fe fydd aelod o dîm hyfforddi Cymru, Osian Roberts. Fe fydd yn edrych ymlaen at y gêm yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2012.

Byddwn yn talu sylw i gêm fawr arall y penwythnos, honno rhwng Wrecsam a Chasnewydd yn y gyngres ddydd Sul. Ian Gill a Gary Pritchard fydd yn cadw cwmni i mi.

Gwyliwch y goliau!

Yma o Hyd!

Categorïau:

Glyn Griffiths|14:55, Dydd Mawrth, 22 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Pwy ydi'r chwaraewyr gorau a gynrychiolodd Cymru? Mae hyn wedi bod yn destun trafod yn ddiweddar a dyma fy nghynnig i.

Leigh Richmond Roose; Alf Sherwood, Mike England, Kevin Ratcliffe, Gareth Bale, Mark Hughes, Billy Meredith, Ivor Allchurch, Ryan Giggs, John Charles, ac Ian Rush.

Dim lle felly i Gary Speed, Craig Bellamy, yr amddiffynnwr Tommy Jones, na chwaith yr asgellwr Cliff Jones, a dim lle chwaith i Neville Southall, er mawr syndod i fi fy hun!

Ond roedd dylanwad Roose cymaint ar y gêm fel y bu rhaid newid y rheolau er mwyn ymateb i'w ddoniau ac effeithiolrwydd ei chwarae!Sgoriodd Mickey Thomas un o'r goliau ym muddugoliaeth Cymru dros Loegr ym 1980

Mae'n drist na fydd Ryan Giggs ar y cae yn erbyn Lloegr. Ond, mae wedi gwneud ei benderfyniad, neu mae'r penderfyniad wedi ei wneud drosto! Pwy a ŵyr?

Y Sadwrn diwethaf roedd Giggs yn hollol allweddol yng nghanol cae Manchester United yn y fuddugoliaeth dros Bolton Wanders ac yn dylanwadu ar y chwarae drwy gydol y gêm.

Bydd Giggs yn Stadiwm y Mileniwm, yn ysbrydoli'r tîm, ac os gall ei bresenoldeb gyda Chymru cael cymaint o ddylanwad ac effaith ag y mae'n rhoi i Manchester United, yna mae gobaith eto am fuddugoliaeth.

Hwyrach y byddwn yn cofio Macsen Wledig cyn y gêm a hwyrach y byddwn yn barod am doriad gwawr newydd ym myd pêl-droed Cymru.

Ewch yn ôl i fis Mai, 1980, amser rhy hir i'r cof i rai ohonom, ond dyna pan chwalodd Cymru Lloegr o bedwar gôl i un ar y Cae Ras yn Wrecsam, a'n gadael yn genedl gyfan, ie, wele ni!

Goliau gan Mickey Thomas, Ian Walsh, Leighton James a gôl yn ei rwyd ei hun gan Phil Thompson yn sicrhau buddugoliaeth fythgofiadwy.

Ewch eto, yn ôl i 1984, eto i'r Cae Ras, a gôl Mark Hughes yn ddigon i selio buddugoliaeth yn y gêm ddiwethaf a chwaraewyd o dan drefn y gemau cystadleuol rhyngwladol rhwng gwledydd Prydain.

Mae gwyntoedd y Dwyrain a stormydd y môr wedi llifo dros bêl-droed yng Nghymru ers yr adegau hynny, ond er waethaf pawb a phopeth, rydym yma o hyd, a byddai buddugoliaeth arall dros y Saeson yn sicrhau y gallwn eto floeddio gerbron y gwledydd ein bod ni eto, 'Yma o Hyd'

Come on Cymru!

Etifeddiaeth Revie

Glyn Griffiths|13:35, Dydd Iau, 17 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Mae'n hanner can mlynedd ers i Don Revie ymuno gyda Leeds United fel rheolwr. Hanner can mlynedd ers i ddelwedd pêl-droed newid a hanner can mlynedd ers genedigaeth 'Dirty Leeds' - y Damned United.

Ai dyma'r etifeddiaeth a roddodd Revie i'r gêm? Tîm a oedd yn cael ei gasáu gan bron pawb am ei fod yn barod i wneud unrhyw beth, o fewn y rheolau neu ddim , er mwyn ennill?

Neu a oedd yna fwy i'w werthfawrogi nac ennill ar bob cyfrif?

Cyn cyrraedd Revie fel rheolwr rhyw sgwrs symbylol i ysgogi'r tîm oedd darpariaeth rheolwyr cyn gêm. Nid felly Revie.


Cyn-rheolwr Leeds United, Don Revie

Roedd yn seicolegydd, yn ysgrifennydd cymdeithasol, yn gynllunydd gwisg, a rheolwr masnachol, i gyd yn un, o flaen ei oes.

Roedd ganddo fwy o ddylanwad ar y clwb na chyfoedion megis Bill Shankly a Matt Busby. Ond er cymaint ei ddylanwad, ychydig iawn o gefnogwyr pêl-droed oedd gyda gair da i'w ddweud am Revie.

Cafodd ei fagu mewn cartref tlawd, cymaint felly fel y daeth i sicrhau fod arian ddim am gael ei wastraffu, na'i wrthod. Cafodd ei athroniaeth am bêl-droed ei ddylanwadu gan Bill Sanderson, gyrrwr trên a oedd yn rheolwr ar dîm ieuenctid Middlesbrough Swifts.

Cynhaliwyd cyfarfodydd tîm yn nhŷ cyngor Sanderson, lle rhannwyd gwybodaeth fanwl am y gwrthwynebwyr a thrafod tactegau i'r fath raddau fel y gwnaethpwyd argraff enfawr ar y Revie ifanc.

Yn ei dymor cyntaf fel rheolwr, fe lwyddodd Revie i gadw Leeds yn yr Adran Gyntaf - ac yna aethpwyd ati i weddnewid popeth.

Newidiwyd lliwiau'r tîm o'r glas a melyn traddodiadol i wyn i gyd am mai dyna oedd lliw dillad tîm gorau byd, Real Madrid. Ac roedd Revie am greu tîm gorau'r Byd i gystadlu gyda'r gorau.

Newidiwyd y dull o ymarfer, y ffordd o fwyta, a sefydlwyd ysbryd o frawdgarwch unol na all unrhyw un ei chwalu. Roedd dyddiau 'We are Leeds' wedi cyrraedd.

Yn 1964 daeth Leeds yn ail yn y gynghrair a cholli yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr, ac yn ystod y deng mlynedd nesaf, ni orffennwyd yn is na phedwerydd yn y gynghrair. Enillwyd y gynghrair dwywaith, Cwpan y gynghrair unwaith a Chwpan Inter City Fairs Ewrop unwaith.

Ond doedd dull Leeds ddim wrth ddant pawb. 'Dirty Leeds!'

Cau'r gwrthwynebwyr i lawr yn gyflym, ac os oedd y gwrthwynebwyr yn chwarae'n galed, neu yn fudur, yna roedd Leeds yn cicio'n galetach ac yn troseddu'n waeth na neb arall. 'Dirty Leeds!'

Roeddynt yn gallu poeni' dyfarnwyr, ffugio anafiadau, a baglu yn fwy caled na neb arall, proffesiynoldeb oedd y gair, ond nid term o anwyldeb mo hwn. Roedd oes a chyfnod diniweidrwydd pêl-droed wedi dod i ben, a chadarnhawyd y ddelwedd o Dirty Leeds ar y teras - 'We Are Leeds'.

Ie gallai hogiau Revie roi 'Hell go iawn iddyn' nhw! Dirty Leeds!

Ymunodd Brian Clough yn y condemnio, gan eu cymharu i fod yn debycach i'r Mafia nac i 'Mothercare' a defnyddiodd Clough ei golofn mewn papur newydd i gadarnhau ei gasineb at Leeds - 'Dirty Leeds'.

Ond yn y capel oedd dihangfa Revie, yn selog pob nos Sul, yn gweddïo pob nos, ac yn sicrhau fod ei deulu a'i berthnasau yn elwa o'r cyfoeth a ddaeth i'w byd yn sgil pêl-droed.

Mae'r farn am Revie yn un sydd yn cael ei thrafod hyd heddiw. Ai dyma'r gorau? 'Wrth gwrs', ydi'r llais o Elland Road. Mae'r cysgod yn parhau hyd heddiw, ac i gefnogwyr y 'Dirty Leeds' does ond un peth yn wir, sef 'We Are Leeds.'

Revie oedd y gorau, a damnia pawb arall, wedi'r cwbl, 'We are Leeds' ond i bawb arall , moch afiach oedd y Damned United, - Dirty, dirty Leeds!

Cae ffars

Categorïau:

Glyn Griffiths|13:30, Dydd Iau, 10 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Be sydd yn mynd ymlaen ar y Cae Ras? Mae'r digwyddiadau yn mynd yn fwy a mwy fel script gomedi Ifas y Tryc ers talwm.

Yr wythnos diwethaf, cafwyd razzmatazz go iawn ar y Cae Ras cyn y gêm yn erbyn Forest Green Rovers.

Fe fe gyhoeddodd Stepffanie Booth, gwraig busnes lleol, ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol o flaen y dyrfa, gan gynnwys talu dyledion i'r 'Ingland Refeniw' yn ogystal â phawb arall yn y broses.

'Hip hip hwre' oedd hi gan bawb, tân y Ddraig ar fflam, a hyd yn oed ymgais (ond nid llawer gwell nac un Tom Jones) i ganu Hen Wlad Fy Nhadau ar y diwedd, a rhoi terfyn ar y pryderon sydd yn bodoli am y 'sitiwesion sefyllfa' ar y Cae Ras.

Ond erbyn hyn, mae'n edrych fel bod pethau ar fin canu ar Ms Booth.

Ie sgersli bilîf, fod Ms Booth am wneud y lle fel rhyw Hotel Stephanie arall, i bob Bruce, Nigel a Cristin sydd eisiau dim byd mwy na gweld gem bêl-droed, hwnna ydio!

Ymddengys fod cynnig newydd gerbron Wrecsam a hynny gan un o'i gyn chwaraewyr Ashley Ward.

Yr un llais o ddoethineb sydd wedi parhau yn gyson yn y sebon opera yma ydi llais Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr. Hebddynt hwy, mae'n eithaf posibl na fyddai clwb yn bodoli erbyn hyn,gan eu bod i ddyfynnu Ifas eto, wedi gweld fod mwy nag un 'dyffar' yn trio prynu'r lle.

Ymddengys fod y perchennog Geoff Moss wedi cael llond bol arni, ac am werthu'r holl job lot am 'sumthing i rywun' - a dyna be' sydd yn corddi'r cefnogwyr cymaint, sef mai i rywun, unrhyw un, y gallasai'r clwb fynd, beth bynnag y cefndir!

Heb Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr, allai ond meddwl beth fyddai wedi digwydd erbyn heddiw.

Beth fydd y dyfodol y Dreigiau?
Does neb yn Wrecsam yn deud dim, ond deud ma' nhw fod y clwb ar werth.

Os oedd yr ymgais i ganu ein hanthem genedlaethol yn unrhyw linyn mesur, yna 'Britannia rwls ddy Wels' fyddai'r ffordd ymlaen.

'Cyt the comic', hogia, mae yna ddigon o Ddreigiau o gwmpas y lle yn creu llanast' yn barod - mae'r cefnogwyr yn haeddu llawer gwell.

Dadl poeth yr haf

Glyn Griffiths|21:49, Dydd Gwener, 4 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Mae ymgyrch ar Facebook o dan y pennawd 'Yn erbyn pêl-droed Haf' yn derbyn cefnogaeth gref ymysg cefnogwyr.

Dechreuwyd yr ymgyrch hon gan Ethan Jones, cefnogwr Bangor er mwyn dangos fod nifer fawr o gefnogwyr pêl-droed yng Nghymru yn erbyn y syniad o gynnal gemau Uwchgynghrair Cymru drwy fisoedd yr Haf.

Un o'r gwrthwynebiadau ydi'r ffaith y byddai dyrchafu a gostwng rhwng yr Uwch Gynghrair a'r is-gynghreiriau yn ymarferol amhosib gan fod y cynlluniau wedi eu cyfyngu i'r Uwch Gynghrair yn unig.

Ceir barn glir ar effaith y newid yma ar wefan Clwb Bêl Droed Porthmadog gan iddynt gredu fod angen i Gymdeithas Bêl-droed Cymru edrych ar y darlun ehangach wrth ystyried effaith y newid honedig ar weddill pêl-droed yng Nghymru.

Credir na fyddai'n bosibl cynnal trefn o ddyrchafu na gostyngiad petai'r cynllun newydd yn cael ei dderbyn, ac mae gofyn i'r Gymdeithas roi eu barn am y ffordd ymlaen, yn hytrach nac eistedd yn ôl ac edrych beth a ddatblygir.

Mae'r dadlau a'r trafod wedi bod yn mynd ymlaen am beth amser, er mwyn ceisio gwella safonau, ar sail cael gwell ddarpariaeth i'r timau hynny sydd yn cynrychioli Cymru yn Ewrop ym misoedd Gorffennaf ac Awst.

Tydi newid i'r Haf ynddo'i hun yn mynd i wella dim. Ceir problem debyg yn yr Alban.

Cyhoeddwyd ar ddiwedd mis Chwefror y bydd tymor Uwchgynghrair yr Alban, yn dechrau ar y 23 o Orffennaf eleni.

Gwnaethpwyd datganiad gan Uwchgynghrair yr Alban i'r perwyl y byddai hyn yn darparu timau yn well ar gyfer chwarae gemau Ewropeaidd. Byddai hefyd yn lleihau'r nifer o gemau canol wythnos a fyddai yn cael ei chwarae yng nghanol y Gaeaf hefyd.

Ateb syml.

Pam na all pethau fod llawn mor syml yng Nghymru?

Fel un a oedd yn rheolwr a hyfforddwr ar dimau rhan amser yn Uwchgynghrair Cymru, a hefyd yn Uwchgynghrair Gogledd Lloegr gallaf eich sicrhâi fod angen llai o gemau canol wythnos a mwy o sesiynau ymarfer i ddatblygu trefn a phatrwm chwarae, gwella perfformiad a chyfrannau tuag at ymestyn safonau ar y cae.

Tydi'r syniad o gynnal gemau Uwchgynghrair Cymru drwy'r Haf, a wfft i bawb arall, yn gwneud dim synnwyr; ond rhywsut neu'i gilydd tydi atebion syml ddim yn ymddangos yn aml iawn fel petaent yn cael eu hystyried!

Does ond obeithio mai syniad na chaiff ei wireddu ydi'r syniad o gynnal pêl-droed drwy'r Haf!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.