Help / Cymorth

Archifau Chwefror 2011

Ei siwtio i'r dim

Glyn Griffiths|09:30, Dydd Gwener, 25 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Be mae rheolwr eich tîm chi yn ei wisgo yn ystod gemau?

Mae gwaith ymchwil gan wyddonwyr chwaraeon ym mhrifysgol Portsmouth wedi dod i'r canlyniad mai'r rheolwyr sydd yn gwisgo siwtiau yn ystod y gêm, a thracwisg yn ystod y sesiynau ymarfer sydd yn cael y gorau allan o'u chwaraewyr.

Cyhoeddwyd gwaith ymchwil gan wyddonwyr chwaraeon o Brifysgol Portsmouth yn yr 'International Journal of Sports Psychology' yn dilyn astudiaeth o effaith ymddangosiad yr hyfforddwr ar gymhwysedd y chwaraewyr mewn gemau.

Dywedodd Dr Richard Thelwell, arweinydd y grŵp ymchwil, fod y ford y mae hyfforddwr yn gwisgo ar gyfer gemau yn gallu effeithio ar berfformiad y tîm.


Rheolwr Bolton Owen Coyle a Syr Alex Ferguson o Manchester United

Ymddengys fod hyfforddwr mewn siwt yn cael eu hystyried yn fwy cymwys yn strategol na rhai sydd yn gwisgo tracwisg.

Ond, pan mae hyfforddwr yn gwisgo tracwisg ar y cae ymarfer, yna credir iddo fod a mwy o allu yng nghyd-destun datblygu sgiliau technegol.

Ymddengys hefyd fod maint y corff yn ddylanwadol, gyda'r hyfforddwr main neu denau ei gorff, ac yn gwisgo yn smart yn cael ei ystyried fel y strategydd gorau - sef y gallu sydd ei angen yn ystod gêm.

Ar y llaw arall, tydi'r hyfforddwr sydd yn drwm ei gorff, er iddo wisgo dillad smart, ddim yn cael ei ystyried fel un a all anogi, datblygu techneg a strategaethau, na chwaith yn magu cymeriad yn ei chwaraewyr!

Camwch ymlaen Arsene Wenger neu Syr Alex Ferguson, ond peidiwch â gofyn imi enwi'r rhai sydd yn cyn drwm eu cyrff. Ond does dim byd yn newydd. Rydym yng Nghymru, eisoes yn gyfarwydd gweld a dulliau Mr Picton , yn ei siwt a thrwm ei gorff, wrth geisio cynnig strategaeth i annog tîm Bryncoch ar C'Mon Midffild!

Does dim ymchwil wedi ei gynnal ar sut mae chwaraewyr yn ymateb i'r rheolwr yn ystod gêm fodd bynnag - ond dyna hwyrach , yn ôl awgrym Dr Thelwell fydd y maes llafur nesaf!

Tybed sut steil sydd i'w weld o gwmpas caeau a meysydd pêl-droed Cymru! Ydi Mr Picton dal i fod yn fyw ac iach?

Edrychwch o'ch cwmpas. Hwyrach fod oes côt croen ddafad yn perthyn i'r gorffennol, ond mae rhai rheolwyr yn parhau i edrych ac ymddwyn fel llwynogod mewn dilledyn oen bach.

Anhy-gôl

Glyn Griffiths|15:35, Dydd Gwener, 18 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Mae'na goliau lwcus, goliau da, goliau da iawn ac yna fe geir gôl Wayne Rooney!

Gôl Wayne Rooney yn erbyn Manchester City

Gôl Wayne Rooney yn erbyn Manchester City

Siawns fe welwn y gôl yma dro ar ôl tro, ac fe fydd yn siŵr o gael ei enwebu fel un o goliau'r tymor ar gyfer gwobr gôl y flwyddyn ar gyfer gwobr Puskas FIFA, er cof am Ferenc Puskás, cyn gapten a blaenwr Hwngari yn y pumdegau.

Hamit Altinop o Dwrci gipiodd y wobr, diwethaf, am gyflawni foli nerthol yn dilyn cic gornel mewn gêm ryngwladol rhwng Twrci a Kazakstan.

Ond ymysg yr enwebai oedd chwaraewr sydd ddim hyd yn oed yn chwarae yn rhyngwladol, ond a oedd yn ddigon ffodus o gael ei gôl wedi ei recordio gan y camerâu teledu yng Ngogledd Iwerddon.

Aelod o dîm Glentoran ym Melffast ydi Matty Burrows, ac imi roedd ei ôl-sodliad wrth neidio, troi a chyfarfod croesiad o'r chwith mewn gêm yn erbyn Portadown cystal os nad gwell nac unrhyw gôl arall a welwyd y llynedd, hyd yn oed gan Lionel Messi!

Ble mae gôl Rooney yn sefyll yng nghanol hyn? Ar ben y rhestr fyddwn i'n ei dybio.
Gem ddarbi, wedi ei heipio i'r cymylau, gyda'r ddau dîm o Fanceinion, City ac United ar ras i ennill Uwchgynghrair Lloegr.

Gôl hwyr yn y gêm hefyd, gyda deuddeng munud yn weddill a gyda City yn credu eu bod wedi gwneud digon i hawlio pwynt o leiaf.

Gôl hefyd a ddaeth i flaenwr sydd wedi methu â sgorio yn gyson eleni, ac yn cael ei farnu am weld dyddiau gwell.

Yn y cyd-destun yna, haws fyddai pheidio â cheisio'r annisgwyl neu hyd yn oed yr hyn a fyddai y rhan fwyaf ohonom yn credu ei fod yn amhosibl!

Tydi cyflog Wayne Rooney ddim wedi cael ei groesawu gan bawb - yn enwedig ar ôl yr awgrym y byddai am ymuno gyda Manchester City yn gynharach yn y tymor.

Nid rhywbeth dros dro oedd y sgil yma, na ffliwc chwaith.

Doedd neb yn son am faint y cyflog wrth weld perffeithrwydd, a hyfrydwch y gêm ar waith y Sadwrn diwethaf.

Tybed beth oedd yn mynd drwy feddwl cefnogwyr City - petai, os ac oni bai!
Gall hwyl y gêm fod dros dro, ond mae athrylith yn barhaol.

Noson siomedig

Categorïau:

Glyn Griffiths|07:43, Dydd Gwener, 11 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Roeddem yn meddwl fod gwawr newydd ar fin torri, a gobeithion gwell o'n blaenau.
Yn anffodus, doedd dim wedi newid!

Cyn i Gary Speed allu dewis tîm a fyddai yn gwneud gêm ohoni yn Nulyn nos Fawrth, roedd saith o'r garfan wedi tynnu allan, neu ddim ar gael.

Tydi hi ddim wedi cymryd llawer o amser i ddod i ddeall beth ydi sefyllfa rheolwr tîm cenedlaethol fel Cymru!

Does gen i ddim amheuaeth fod gennym dîm da petai bawb ar gael. Does gen i ddim amheuaeth chwaith, yn ôl yr hyn a welais yn Nulyn, nad oes gennym lawer o safon i gystadlu ar y lefel uchaf pan fo'n chwaraewyr allweddol ddim ar gael.

Roedd Cymru yn siomedig, pasio blêr, a chamgymeriadau elfennol.

Doedd gan Iwerddon fawr i gynnig fel tîm grymus chwaith , sydd yn gwneud y golled yn fwy anodd ei derbyn.

Disgleiriodd Damien Duff, asgellwr Iwerddon, fel chwaraewr y gêm i mi, ac er bod Cymru ar y cyfan, wedi dangos disgyblaeth a threfn, doedd yna neb a allasai newid cwrs y gêm neu godi safon.

Doedd gan y wasg Wyddeleg fawr i ddweud am berfformiad Cymru chwaith. Doeddynt ddim yn credu fod perfformiad Cymru wedi gwneud digon i fesur gallu chwaraewyr newydd Iwerddon, megis Seamus Coleman a Ciaran Clark, ar y lefel rhyngwladol.

Trist oedd gorfod darllen fod Cymru mor wael, yn ôl yr Irish Independent, nes ei bod yn anodd mesur gwerth y fuddugoliaeth. Gwell aros nes gweld y newydd ddyfodiaid yn perfformio yn erbyn tîm o'r Cyfandir oedd y casgliad.

Un nodyn canmoladwy yn y wasg Wyddeleg oedd y ganmoliaeth i gefnogwyr Cymru a gyfrannodd yn helaeth at awyrgylch y gêm. Doedd yna ond ychydig dros ugain mil o dyrfa, gyda dyrniad fechan o Gymry yn eu mysg, ond diolch i'w ffyddlondeb, roedd eu cyfraniad yn fwy sylweddol ar y noson, na pherfformiad y tîm, mewn stadiwm a oedd yn llai na hanner llawn.

Ymlaen at Loegr yn nesaf, a bydd rhaid i Gary Speed drefnu tîm sydd heb chwarae gyda'i gilydd fel uned o'r blaen. Collwyd y cyfle nos Fawrth, oherwydd absenoldeb, ond dyna ni, mae'n debyg y bydd pawb yn gwneud yn siŵr eu bod ar gael ar ddiwedd mis Mawrth!

Cyfnod newydd

Glyn Griffiths|12:07, Dydd Iau, 3 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Mae'n ddechrau cyfnod newydd yn Nulyn nos Fawrth gyda Chymru yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon. - gêm gyntaf Gary Speed fel rheolwr.

Cwpan y Cenhedloedd ydi'r gystadleuaeth, gyda Gogledd Iwerddon a'r Alban hefyd yn cymryd rhan.

Mae'n debyg mai'r sylw cyntaf fydd nodi os fydd chwaraewyr yn tynnu yn ôl o'r garfan yn hwyr . Bu hynny yn digwydd llawer rhy aml yn ystod cyfnod John Toshack.

Daw Speed ag agwedd gyfoes i'r tîm cenedlaethol, ac mae eisoes wedi penodi Cyfarwyddwr Technegol Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru (ac un o gyfranwyr cyson Ar y Marc) Osian Roberts fel un o'r tîm fydd yn ei gynorthwyo.

Gary Speed

Mae parch Osian yn eang yn y byd bêl-droed gyda safon y cyrsiau sydd yn cael ei gynnal ganddo ar ran y Gymdeithas, ar gyfer cymhwysiant fel hyfforddwr a rheolwr, yn derbyn canmoliaeth uchel.

Diddorol fydd nodi pwy fydd yn cael ei enwi ar gyfer y gêm gyntaf. Pan fo clwb yn penodi rheolwr newydd, mae'n debyg mai'r marc safon ydi'r chwaraewr cyntaf a gaiff ei arwyddo.

Yn y byd rhyngwladol, ni ellir arwyddo chwaraewyr, felly bydd y tîm cyntaf a gaiff ei enwi yn arwyddocaol.

Rydym yn gwybod yn barod na fydd Gareth Bale na Craig Bellamy yn chwarae yn Nulyn oherwydd anafiadau - cyfle felly i eraill ddangos eu gallu a gwneud argraff. Ac ni fydd Danny Gabbidon, sydd wedi dychwelyd o'r difethwch rhyngwladol, ar gael oherwydd anaf.

Dau chwaraewr, sydd ddim yn newydd i Gymru, ond sydd wedi denu sylw oherwydd canlyniadau eu clwb ydi Neal Eardley a David Vaughan o Blackpool.

Mae'r ddau yma wedi bod yn allweddol ym mherfformiad y tîm sydd wedi synnu Uwchgynghrair Lloegr eleni, a diddorol fydd gweld sut fyddant yn ymateb petaent yn cael cyfle nos Fawrth.

Felly hefyd Aaron Ramsey o Arsenal, sydd ar fenthyg yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Tydi Ramsey heb chwarae llawer ers iddo ddychwelyd ar ôl anaf, heblaw cyfnod ar fenthyg gyda Nottingham Forest, ond bydd y gêm yma yn gyfle arall iddo brofi ei ffitrwydd

Tybed a fydd Gary Speed hefyd yn gallu perswadio Ryan Shawcross a David Jones i fod yn Gymry? Byddai cynnwys y ddau yma, sy'n chwarae yn rheolaidd i Stoke a Wolves yn Uwchgynghrair Lloegr yn siŵr o gryfhau'r garfan a safon ein tîm cenedlaethol.

C'mon Cymru!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.