Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Anhy-gôl

Glyn Griffiths|15:35, Dydd Gwener, 18 Chwefror 2011

Mae'na goliau lwcus, goliau da, goliau da iawn ac yna fe geir gôl Wayne Rooney!

Gôl Wayne Rooney yn erbyn Manchester City

Gôl Wayne Rooney yn erbyn Manchester City

Siawns fe welwn y gôl yma dro ar ôl tro, ac fe fydd yn siŵr o gael ei enwebu fel un o goliau'r tymor ar gyfer gwobr gôl y flwyddyn ar gyfer gwobr Puskas FIFA, er cof am Ferenc Puskás, cyn gapten a blaenwr Hwngari yn y pumdegau.

Hamit Altinop o Dwrci gipiodd y wobr, diwethaf, am gyflawni foli nerthol yn dilyn cic gornel mewn gêm ryngwladol rhwng Twrci a Kazakstan.

Ond ymysg yr enwebai oedd chwaraewr sydd ddim hyd yn oed yn chwarae yn rhyngwladol, ond a oedd yn ddigon ffodus o gael ei gôl wedi ei recordio gan y camerâu teledu yng Ngogledd Iwerddon.

Aelod o dîm Glentoran ym Melffast ydi Matty Burrows, ac imi roedd ei ôl-sodliad wrth neidio, troi a chyfarfod croesiad o'r chwith mewn gêm yn erbyn Portadown cystal os nad gwell nac unrhyw gôl arall a welwyd y llynedd, hyd yn oed gan Lionel Messi!

Ble mae gôl Rooney yn sefyll yng nghanol hyn? Ar ben y rhestr fyddwn i'n ei dybio.
Gem ddarbi, wedi ei heipio i'r cymylau, gyda'r ddau dîm o Fanceinion, City ac United ar ras i ennill Uwchgynghrair Lloegr.

Gôl hwyr yn y gêm hefyd, gyda deuddeng munud yn weddill a gyda City yn credu eu bod wedi gwneud digon i hawlio pwynt o leiaf.

Gôl hefyd a ddaeth i flaenwr sydd wedi methu â sgorio yn gyson eleni, ac yn cael ei farnu am weld dyddiau gwell.

Yn y cyd-destun yna, haws fyddai pheidio â cheisio'r annisgwyl neu hyd yn oed yr hyn a fyddai y rhan fwyaf ohonom yn credu ei fod yn amhosibl!

Tydi cyflog Wayne Rooney ddim wedi cael ei groesawu gan bawb - yn enwedig ar ôl yr awgrym y byddai am ymuno gyda Manchester City yn gynharach yn y tymor.

Nid rhywbeth dros dro oedd y sgil yma, na ffliwc chwaith.

Doedd neb yn son am faint y cyflog wrth weld perffeithrwydd, a hyfrydwch y gêm ar waith y Sadwrn diwethaf.

Tybed beth oedd yn mynd drwy feddwl cefnogwyr City - petai, os ac oni bai!
Gall hwyl y gêm fod dros dro, ond mae athrylith yn barhaol.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.