Noson siomedig
Roeddem yn meddwl fod gwawr newydd ar fin torri, a gobeithion gwell o'n blaenau.
Yn anffodus, doedd dim wedi newid!
Cyn i Gary Speed allu dewis tîm a fyddai yn gwneud gêm ohoni yn Nulyn nos Fawrth, roedd saith o'r garfan wedi tynnu allan, neu ddim ar gael.
Tydi hi ddim wedi cymryd llawer o amser i ddod i ddeall beth ydi sefyllfa rheolwr tîm cenedlaethol fel Cymru!
Does gen i ddim amheuaeth fod gennym dîm da petai bawb ar gael. Does gen i ddim amheuaeth chwaith, yn ôl yr hyn a welais yn Nulyn, nad oes gennym lawer o safon i gystadlu ar y lefel uchaf pan fo'n chwaraewyr allweddol ddim ar gael.
Roedd Cymru yn siomedig, pasio blêr, a chamgymeriadau elfennol.
Doedd gan Iwerddon fawr i gynnig fel tîm grymus chwaith , sydd yn gwneud y golled yn fwy anodd ei derbyn.
Disgleiriodd Damien Duff, asgellwr Iwerddon, fel chwaraewr y gêm i mi, ac er bod Cymru ar y cyfan, wedi dangos disgyblaeth a threfn, doedd yna neb a allasai newid cwrs y gêm neu godi safon.
Doedd gan y wasg Wyddeleg fawr i ddweud am berfformiad Cymru chwaith. Doeddynt ddim yn credu fod perfformiad Cymru wedi gwneud digon i fesur gallu chwaraewyr newydd Iwerddon, megis Seamus Coleman a Ciaran Clark, ar y lefel rhyngwladol.
Trist oedd gorfod darllen fod Cymru mor wael, yn ôl yr Irish Independent, nes ei bod yn anodd mesur gwerth y fuddugoliaeth. Gwell aros nes gweld y newydd ddyfodiaid yn perfformio yn erbyn tîm o'r Cyfandir oedd y casgliad.
Un nodyn canmoladwy yn y wasg Wyddeleg oedd y ganmoliaeth i gefnogwyr Cymru a gyfrannodd yn helaeth at awyrgylch y gêm. Doedd yna ond ychydig dros ugain mil o dyrfa, gyda dyrniad fechan o Gymry yn eu mysg, ond diolch i'w ffyddlondeb, roedd eu cyfraniad yn fwy sylweddol ar y noson, na pherfformiad y tîm, mewn stadiwm a oedd yn llai na hanner llawn.
Ymlaen at Loegr yn nesaf, a bydd rhaid i Gary Speed drefnu tîm sydd heb chwarae gyda'i gilydd fel uned o'r blaen. Collwyd y cyfle nos Fawrth, oherwydd absenoldeb, ond dyna ni, mae'n debyg y bydd pawb yn gwneud yn siŵr eu bod ar gael ar ddiwedd mis Mawrth!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 