Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cyfnod newydd

Glyn Griffiths|12:07, Dydd Iau, 3 Chwefror 2011

Mae'n ddechrau cyfnod newydd yn Nulyn nos Fawrth gyda Chymru yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon. - gêm gyntaf Gary Speed fel rheolwr.

Cwpan y Cenhedloedd ydi'r gystadleuaeth, gyda Gogledd Iwerddon a'r Alban hefyd yn cymryd rhan.

Mae'n debyg mai'r sylw cyntaf fydd nodi os fydd chwaraewyr yn tynnu yn ôl o'r garfan yn hwyr . Bu hynny yn digwydd llawer rhy aml yn ystod cyfnod John Toshack.

Daw Speed ag agwedd gyfoes i'r tîm cenedlaethol, ac mae eisoes wedi penodi Cyfarwyddwr Technegol Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru (ac un o gyfranwyr cyson Ar y Marc) Osian Roberts fel un o'r tîm fydd yn ei gynorthwyo.

Gary Speed

Mae parch Osian yn eang yn y byd bêl-droed gyda safon y cyrsiau sydd yn cael ei gynnal ganddo ar ran y Gymdeithas, ar gyfer cymhwysiant fel hyfforddwr a rheolwr, yn derbyn canmoliaeth uchel.

Diddorol fydd nodi pwy fydd yn cael ei enwi ar gyfer y gêm gyntaf. Pan fo clwb yn penodi rheolwr newydd, mae'n debyg mai'r marc safon ydi'r chwaraewr cyntaf a gaiff ei arwyddo.

Yn y byd rhyngwladol, ni ellir arwyddo chwaraewyr, felly bydd y tîm cyntaf a gaiff ei enwi yn arwyddocaol.

Rydym yn gwybod yn barod na fydd Gareth Bale na Craig Bellamy yn chwarae yn Nulyn oherwydd anafiadau - cyfle felly i eraill ddangos eu gallu a gwneud argraff. Ac ni fydd Danny Gabbidon, sydd wedi dychwelyd o'r difethwch rhyngwladol, ar gael oherwydd anaf.

Dau chwaraewr, sydd ddim yn newydd i Gymru, ond sydd wedi denu sylw oherwydd canlyniadau eu clwb ydi Neal Eardley a David Vaughan o Blackpool.

Mae'r ddau yma wedi bod yn allweddol ym mherfformiad y tîm sydd wedi synnu Uwchgynghrair Lloegr eleni, a diddorol fydd gweld sut fyddant yn ymateb petaent yn cael cyfle nos Fawrth.

Felly hefyd Aaron Ramsey o Arsenal, sydd ar fenthyg yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Tydi Ramsey heb chwarae llawer ers iddo ddychwelyd ar ôl anaf, heblaw cyfnod ar fenthyg gyda Nottingham Forest, ond bydd y gêm yma yn gyfle arall iddo brofi ei ffitrwydd

Tybed a fydd Gary Speed hefyd yn gallu perswadio Ryan Shawcross a David Jones i fod yn Gymry? Byddai cynnwys y ddau yma, sy'n chwarae yn rheolaidd i Stoke a Wolves yn Uwchgynghrair Lloegr yn siŵr o gryfhau'r garfan a safon ein tîm cenedlaethol.

C'mon Cymru!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.