Dyfodol y Cae Ras
Pryd oedd y tro diwethaf i dîm a fethodd â churo Tamworth ystyried cynnal gêm Cwpan y Byd ar eu maes eu hunain?
Gyda Wrecsam yn colli ar Faes y Lamb nos Fawrth, ac edrych fel oen ar y ffordd i'r lladdfa, mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn awyddus i chwarae gemau rhagbrofol Cwpan y Byd a Phencampwriaethau Ewrop ar feysydd heblaw Stadiwm y Mileniwm yn y dyfodol.

Stadiwm newydd Caerdydd, y Liberty yn Abertawe a Pharc y Scarlets yn Llanelli ydi'r lleoliadau dan ystyriaeth.
Ond ni fydd y Cae Ras yn Wrecsam yn cael ei ystyried hyd nes i'r stadiwm gael ei foderneiddio ac yn cyrraedd safonau UEFA yn ogystal â gofynion myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr.
Tydi diweddaru'r Cae Ras ddim yn rhywbeth a all ddigwydd dros nos, er mai dyma'r stadiwm gorau yng Nghymru, sydd ddim wedi ei leoli ar arfordir aber yr afon Hafren.
Mae rhywun yn amau nad oes fawr o sylw yn cael ei roi i unrhyw beth, yn enwedig yn y byd pêl-droed, sydd yn gorwedd i'r gogledd o'r M4.
Cafwyd digon o ffwdan y llynedd wrth i'r Gymdeithas Bêl Droed gyhoeddi mai yn Llanelli y byddai rownd derfynol Cwpan Cymru yn cael ei chynnal, gyda nifer o gefnogwyr Bangor yn gofidio teithio mor bell yn ystod gwyliau'r Banc
Cafwyd cefnogaeth wleidyddol hefyd i'w cwyn, felly, gyda'r Cae Ras yn edrych yn flinedig, ond onid dyma'r cyfle i'r rhai sydd mewn grym wrth y Bae i'r De o'r M4, i fynd ati winedd a dannedd i ddwyn perswâd ar eu cyd-aelodau yn y Cynulliad i gyfrannu ychydig tuag at ddatblygiad y Cae Ras a sylweddoli fod yna fwy i fywyd hamdden Gogledd Cymru na cherdded i fyny'r Wyddfa er mwyn cael coffi mewn caffi ar y copa!
Rwy'n edrych ymlaen am gyhoeddiad fyddai'n sicrhau stadiwm deilwng i Ogledd Cymru, un a fyddai hefyd yn sicrhau y gall tref Wrecsam ymfalchïo fod y Cae Ras gyfoes ei gyfanwaith yn disgleirio, yn genedlaethol a rhyngwladol, fel Oen Duw ar fynydd Seion.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 