A oes angen Capten newydd?
A ydi'n amser i Gymru chwilio am gapten newydd?
Yn sgil absenoldeb Craig Bellamy o'r gêm yn erbyn Montenegro, a'r smonach a wnaethpwyd gan Manchester City wrth iddynt fethu a chysylltu â Chymru i roi gwybodaeth am ei absenoldeb yn sgil anaf, mae rhaid gofyn beth ydi dyfodol Bellamy.
Rhaid gofyn hefyd beth petai John Terry yn methu a chwarae dros Loegr oherwydd anaf, ac a fuasai Chelsea yn ymddwyn yn yr un ffordd drwy fethu â rhoi gwybodaeth i Gymdeithas Bêl Droed Lloegr neu Fabio Capello, amdano?
A ydi Manchester City wedi dod yn rhy bwysig, yn sgil eu cyfoeth newydd, i dalu unrhyw sylw am sefyllfa eu chwaraewyr rhyngwladol?
Tydi Bellamy ond wedi chwarae deg gêm allan o ddau ddeg tri ers pan iddo ddod yn gapten ar Gymru, ac onid gwell felly fuasai gadael i rywun arall dderbyn yr awenau ar y cae, a gadael i Bellamy ganolbwyntio ar ddod yn holliach.
Mae'n wir i Bellamy fod wedi chwarae dros Gymru er nad oedd yn hollol ffit yn y gorffennol, ac wedi methu gemau i'w glybiau yn dilyn hyn - ond ai dyma'r amser i ystyried y dyfodol, a hwyrach gofyn mwy o gwestiynau am agwedd Manchester City yn sgil ei absenoldeb?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 