Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Tymor arall a gobeithion newydd

Glyn Griffiths|14:05, Dydd Iau, 6 Awst 2009

Tymor arall a gobeithion newydd, ond be' sydd o flaen Caerdydd, Abertawe a Wrecsam eleni?

Mae tipyn o newid wedi bod yn ystod yr haf gyda Chaerdydd wedi symud i stadiwm newydd sbon, Abertawe yn penodi rheolwr newydd a Wrecsam bron hefo tîm newydd sbon!

Bydd ymadawiad Roger Johnson yn creu bwlch ynghanol amddiffyn, ac arweiniad Caerdydd, ond mae angen chwaraewr canol cae a all sgorio arnynt hefyd.

Hwyrach y gall Joe Ledley ddatblygu i wneud hyn, ond a fydd o yn aros? Ac a fydd Ross McCormack o gwmpas, ac os bydd, a oes angen blaenwr cryf a tal i arwain y llinell flaen wrth ei ochor?

Mwy o gwestiynau nac atebion yn y stadiwm newydd mi dybiwn!

I lawr yr M4 yn Abertawe, mae Paulo Sousa yn ceisio gwisgo'r fantell a adawyd gan Roberto Martinez. Mae eisoes wedi gwisgo siwtiau sy'n tynnu sylw, ond a fydd y tîm yn ddigon da i hawlio'r sylw eleni?

Does dim amheuaeth mai Abertawe oedd yn chwarae'r pêl-droed gorau yn y gynghrair y llynedd, ond bydd angen cysondeb arnynt os am wneud hyn yn effeithiol erbyn diwedd y tymor.

Mae gen i deimlad hefyd fod nifer o dimau'r Bencampwriaeth wedi dod i adnabod dull Abertawe o chwarae ac erbyn diwedd y tymor diwethaf yn ymwybodol o sut i leihau eu heffeithiolrwydd.

Heb Jason Scotland a Jordi Gomez, fe fydd y disgwyliadau yn uchel ar Steve Dobbie y blaenwr newydd o Queen of the South ac ar Gorka Pintado a Guillem Bauza.

Bydd disgwyl hefyd i Jordi Lopez o QPR etifeddu dull Abertawe o basio'r bêl o gwmpas canol y cae yn gelfydd.

Draw yn Wrecsam mae Dean Saunders wedi cael gwared â phedwar chwaraewr ar ddeg (hyd yn hyn) ac wedi arwyddo naw chwaraewr newydd.

Mae'r gyllideb yn llai, ond parhau yn uchel mae'r gobeithion, ac fe fydd rhaid i'r to newydd addasu yn sydyn i ofynion Uwchgynghrair y Blue Square.

Bydd croeso yn ôl i Marc Williams a'i ddylanwad yng nghanol y cae, a chroeso hefyd i Gareth Taylor fel blaenwr.

All pethau ond fod yn well os yw Taylor am gymryd lle Jefferson Louis!

Gyda thimau cryf fel Caerlŷr, Middlesbrough, Derby, West Bromwich Albion a Sheffield United yn y Bencampwriaeth mae'n anodd gweld Caerdydd ac Abertawe, yn sgil eu newidiadau, yn cyrraedd y gemau ail gyfle.

Bydd angen dechrau da i'r tymor os am weld Wrecsam yn codi gobeithion unwaith eto mewn Cynghrair fydd yn cynnwys Luton, Rhydychen yn ogystal â AFC Wimbledon.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.