Defnyddio technoleg
Ydi'r amser wedi cyrraedd pan ddylai camerâu gael eu gosod wrth ochor pob gôl?
Yn dilyn y gôl a sgoriodd Crystal Palace yn erbyn Bristol City, ac na chafodd ei ganiatáu, gan nad oedd y dyfarnwr wedi gweld beth a ddigwyddodd, mae rheolwr Palace, Neil Warnock, yn barod ei gwyn am y diffyg o beidio â defnyddio technoleg gyfoes i benderfynu materion dadleuol.
Gwnaethpwyd y pwynt fod y byd yn gallu anfon dyn i'r lleuad, neu y gellir defnyddio technoleg mewn gêm tennis yn Wimbledon, ond ni chaniateir gosod camerâu ar ochor gôl i benderfynu os yw'r bêl wedi croesi'r llinell neu ddim.
Pwynt teg - ond mae awdurdodau pêl-droed yn parhau i fynnu mai gan y dyfarnwr mae'r gair olaf. Digon teg, ond oni ellir helpu'r dyfarnwr i sicrhau fod ei air olaf yn gywir, drwy roi cymorth gweledol a thechnolegol iddo? Wedi'r cwbwl, does neb yn meddwl fod hygrededd dyfarnwyr tennis, criced, neu rygbi yn lleihau wrth ddefnyddio technoleg weledol i benderfynu canlyniadau digwyddiadau aneglur.
Hen bryd felly i symud ymlaen yn y byd pêl-droed, ac os am gael y pedwerydd dyfarnwr yn sefyll ar ochor y cae gyda monitor deledu o fewn cyrraedd, yna, fe ddylai gael yr hawl i'w ddefnyddio ( rhywbeth na chaiff ar hyn o bryd) , ac anfon y wybodaeth berthnasol drwy'r system gyfathrebu glywedol sydd eisoes yn bodoli, i'r dyfarnwr.
Hwyrach y bydd nifer yn cwyno am y gost ariannol, ond beth ydi'r gost o beidio â symud ymlaen a cholli allan oherwydd ystyfnigrwydd?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 