Ac wedi elwch, tawelwch fu!
Dau o dimau Cymru, Llanelli a'r Seintiau Newydd eisoes allan o Ewrop cyn i'r tymor dechrau, gwledydd tramor yn cael cymaint o lwyddiant ar feysydd pêl-droed Cymru ac ydynt yng Ngŵyl Ryngwladol Llangollen, a llais yr hen Twm Twm o 'Fo a Fe' yn fythol barhau i lefain 'Nefar in Ewrob gw'boi!'
Stori cyfarwydd - a'r wythnos nesaf bydd Bangor yn herio Honka â'r Rhyl yn gobeithio curo Partizan Belgrad, tîm sydd yn y gorffennol, wedi cyrraedd Ffeinal Cwpan Ewrop!
Sur felly y gellir symud ymlaen?
Mae'r Uwchgynghrair ar fin cael eil ail strwythuro, i ddeuddeg tîm ond a ydi hyn yn ddigon ynddo'i hun i sicrhau gwelliant ?
Mae dau bwnc llosg yn parhau, sef a ellir cynyddu'r nifer o dimau proffesiynol o fewn yr Uwchgynghrair, ac a ddylid ystyried cynnal yr Uwchgynghrair yn ystod misoedd yr Haf.
Does yr un o'r ddau yna yn hawdd i'w wireddu, ac mae meddwl am sefydlu clybiau llawn amser, a'r oblygiadau ariannol yn ei sgil, yn anodd ei amgyffred mewn cyfnod o gyfyngder economaidd.
Ond beth am newid amseriad y tymor?
Ai dyma'r amser i dimau Cymru frathu'r fwled, fel petai ac ystyried chwarae drwy'r Haf?
Mae Gweriniaeth Iwerddon wedi cymryd y cam, a'r farn gyffredinol ydi fod hyn yn creu timau sydd yn fwy parod ar gyfer Ewrop.
Mae timau Gogledd Iwerddon fel Cymru yn chwarae drwy'r gaeaf, ond os edrychwch ar ganlyniadau Linfield a Glentoran yng Nghwpan Ewropa, yna mae lle i gredu eu bod hwythau mewn sefyllfa debyg.
A fydd y detholedig ddeuddeg yng Nghymru yn ddigon dewr i orfodi newid mewn agwedd ac arferiad, er mwyn lles pêl-droed Cymru, neu a ydynt yn fwy tebygol o saethu eu hunain yn eu traed gyda'r fwled na chaiff ei brathu?