Ymroddiad y Rhyl yn arbennig
Yn dilyn gêm gyfeillgar gyfartal yn erbyn Prestatyn nos Lun, dywedodd Dean Saunders, rheolwr Wrecsam y dymunai weld ail dîm Wrecsam yn chwarae yng Uwchgynghrair Cymru yn y dyfodol.
Os na allant gael dyrchafiad o Gynghrair y Blue Square yn fuan, yna hwyrach y bydd yn well i Wrecsam ystyried rhoi y tîm cyntaf yn yr Uwchgynghrair, ac anelu am daith i Ewrop yn hytrach na breuddwydio am dripiau i Gaerwysg neu Dagenham a Redbridge.
Colli oedd ein hanes yng ngemau Ewrop eto yr wythnos yma ond, llygedyn o obaith i Fangor ar gyfer yr ail gymal ar y Cae Ras yn erbyn Honka.
Roedd tasg y Rhyl yn mynd i fod yn un anodd yn erbyn Partizan Belgrade, ac felly y bu.
Rhaid dweud fod ymroddiad y Rhyl yn arbennig, a phetai Osian Roberts, rheolwr dros dro y Rhyl, a Slavisa Jokanovic, rheolwr Partizan, yn newid timau, yna rwyf hollol o'r farn na fuasai unrhyw beth gwahanol wedi digwydd yn y gêm.
Roedd y Rhyl yn drefnus ac yn ddisgybledig, ond yn erbyn tîm sydd yn arfer chwarae yn gyflymach, yn meddwl yn gynt ac yn cadw meddiant yn well, gyda chwaraewyr gwell, roedd ond un canlyniad yn bosibl.
Yn y cyfamser os am ddilyn syniad Dean Saunders, beth am gael bob un tîm yng Nghymru yn cystadlu ar lefel cenedlaethol a rhoi iddynt y cyfle i geisio cystadlu yn Ewrop?
Siawns na allai Abertawe neu Gaerdydd wneud yn well, wedi'r cwbwl timau Cymreig ydi hwythau hefyd!
Allai ddim gweld pan na all hyn ddigwydd yng Nghwpan Cymru, heb greu unrhyw drafferth - er y byddai ailwampio'r Uwchgynghrair i gynnwys timau o Gaerdydd neu Abertawe braidd yn anodd - yn enwedig o ystyried yr holl drafferth a fu i gytuno cwtogi'r cynghrair i ddeuddeg tîm ar gyfer tymor 2010/11.
Cyn cloi, dymuna pob un o griw rhaglen Ar y Marc yn dda i John Hartson - sydd yn ein meddyliau - yn gyson wrth iddo frwydro yn ddewr yn erbyn ei afiechyd.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 