Cartref clud?
Mae'r sioe fawr drosodd a'r beirniadu, wel, hwyrach ond ar fin dechrau.
Wedi'r cwbwl, mae'r lle yn cael ei fynychu gan amlaf gan fobol sydd yn hoffi cwyno yn feunyddiol a methu â gwneud eu meddyliau i fyny os mai angen glaw i feddalu'r borfa, yntau angen haul sydd orau ar gyfer llwyddiant.
A doedd hi ddim yn sioe frenhinol go iawn chwaith gan mai Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan oedd yno i agor y lle.
Ie, croeso i Stadiwm newydd Dinas Caerdydd gyda Rhodri Morgan yn cynnal agoriad swyddogol ac urddasol cyn y gêm nos Fercher diwethaf rhwng Dinas Caerdydd a Celtic.
Er hynny, os ewch yno, hwyrach y bydd well i chi fynd a'ch wats efo chi, gan nad oes cloc, na chwaith sgôrfwrdd ar gyfer y lle, ond fel pob stadiwm newydd sbon arall, roedd y lle yn sbic a sban o lân
Roedd yno ddigon o sŵn hefyd er waethaf awgrymiadau yn y wasg leol yn
dilyn y gêm gyntaf yno, rhwng Caerdydd a Chasetown, nad oedd fawr o awyrgylch o gwmpas y lle.
Stori cyfarwydd mewn stadiwm newydd, cafwyd yr un feirniadaeth am Stadiwm yr Emirates lle mae Arsenal yn chwarae.
Hwyrach na fydd Joe Ledley na Ross McCormack yn gweld llawer o'r lle yn y dyfodol, ond yn ôl y perfformiad Caerdydd yn erbyn Celtic, hwyrach y bydd angen presenoldeb angor o amddiffynnwr caled ynghanol y cae i gynnal tymor llwyddiannus eleni.
Creu awyrgylch mae rhywun, nid ei adeiladu, ac os ceir angerdd yn y chwarae, bydd yna angerdd ymysg y cefnogwyr.
Mae llawer yn dibynnu ar gymanfa y cefnogwyr os am ail-greu awyrgylch drydanol Parc Ninian ar ei orau yn stadiwm newydd ein prifddinas.
Beth yw eich argraff chi o'r lle ? Cysylltwch a rhowch eich barn.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 