Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ydi'r Sosban yn berwi?

Glyn Griffiths|13:04, Dydd Gwener, 3 Gorffennaf 2009

Yr wythnos diwethaf, fe gynhwyswyd y gosodiad yma ar y blog yn cyfeirio at obeithion Llanelli ym Motherwell:

'Gyda'r Albanwyr heb dîm rheoli ar hyn o bryd, hwyrach y gall ysgogiad newydd Andy Legg arwain bois y Sosban i ganlyniad annisgwyl'.

Dyna yn union beth a ddigwyddodd.

Llwyddodd Llanelli i drechu'r tîm o Uwchgynghrair yr Alban o un gôl i ddim gan roi eu hunain mewn sefyllfa gref ar gyfer yr ail gymal.

Chwaraeodd y Rhyl hefyd yn erbyn Motherwell, y penwythnos diwethaf mewn gêm gyfeillgar, a'u curo o dair gôl i un.

Hwyrach i chi gofio'r Barri yn colli i Aberdeen a Chwmbrân yn cael eu chwalu gan Celtic mewn gemau Ewropeaidd yn y gorffennol.

Ond gyda'r Seintiau Newydd yn sgorio oddi cartref yn Fram Reykavik, ac yn colli yno ond o dwy gôl i un, hwyrach, hwyrach, fod y rhod yn troi.

Ydi'r Sosban yn berwi a'r Seintiau yn barod? Bydd sylw mawr i'r gemau ail gymal.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.