Daeargrynfeydd a tsunami – CBACAstudiaeth Achos: Tsunami Japan 2011

Mae daeargryn yn digwydd pan mae gwasgedd sydd wedi crynhoi ar ffiniau platiau yn cael ei ryddhau. Gall daeargryn ddinistrio adeiladau ac isadeiledd. Gall achosi tsunami hefyd, ac mae effeithiau tsunami yr un mor ddinistriol ac angheuol.

Part ofDaearyddiaethTirweddau a pheryglon tectonig

Astudiaeth achos: Tsunami Japan 2011 – gwlad incwm uchel (HIC)

Dydd Gwener, 11 Mawrth 2011 am 14:46:24, digwyddodd daeargryn maint naw ar y . Roedd yn y man lle mae plât tectonig y Cefnfor Tawel yn llithro o dan blât Gogledd America. Roedd yr 30 cilometr dan wely y Cefnfor Tawel a 129 cilometr oddi ar arfordir dwyreiniol Honshu, Japan – gwlad incwm uchel. Achosodd hyn tsunami. Cynhyrchwyd tonnau uchel, pwerus a deithiodd ar draws y Cefnfor Tawel. Yr ardal gafodd ei heffeithio waethaf gan y tsunami oedd arfordir dwyreiniol Honshu yn Japan.

Uwchganolbwynt y daeargryn oddi ar arfordir dwyreiniol Sendai.
Figure caption,
Effeithiodd tsunami 2011 ar dros 500 cilometr o forlin Japan
Llun o tsunami 2011 wedi ei dynnu o orsaf bŵer niwclear Fukushima Rhif 1. Mae tonnau anferth yn agosáu at yr orsaf bŵer.
Image caption,
Dŵr yn rhuthro i mewn i orsaf bŵer niwclear Fukushima Rhif 1, yn dilyn tsunami gafodd ei achosi gan ddaeargryn
Llun o’r awyr o dân yn ninas Iwaki, yn Rhaglawiaeth Fukushima.
Image caption,
Roedd arwynebedd o tua 561 cilometr sgwâr dan ddŵr yn dilyn y tsunami

Y prif effeithiau

Isadeiledd

  • Teithiodd y tonnau cyn belled â deg cilometr o’r arfordir yn Sendai.
  • Cafodd porthladdoedd a meysydd awyr yn Sendai eu difrodi a’u cau.
  • Dinistriodd y tonnau waliau amddiffyn rhag tsunami mewn llawer o leoliadau.
  • Dinistriodd yr ymchwydd enfawr adeiladau tri llawr lle roedd pobl wedi dod at ei gilydd i fod yn ddiogel.
  • Roedd argyfwng yng ngorsaf bŵer niwclear Fukushima. Roedd y system oeri wedi torri ac roedd deunyddiau ymbelydrol wedi cael eu rhyddhau i’r amgylchedd.
  • Yng Ngorffennaf 2013, cyfaddefodd Tokyo Electric Power Company (TEPCO) fod tua 300 tunnell o ddŵr ymbelydrol yn dal i gael ei ollwng o’r safle bob diwrnod i'r Cefnfor Tawel.

Cymdeithasol ac economaidd

  • Bedair blynedd ar ôl y daeargryn, roedd tua 230,000 o bobl a oedd wedi colli eu cartrefi yn dal i fyw mewn tai dros dro.
  • Yn ôl yr amcangyfrifon, achosodd y daeargryn a’r tsunami werth $300 biliwn o ddifrod (tua 25 triliwn yen).
  • Ar 10 Ebrill 2015 roedd 15,891 o farwolaethau wedi cael eu cadarnhau. Mae dros 2,500 o bobl yn dal wedi’u cofnodi fel pobl sydd ar goll.

Ymatebion i ddatblygu’r capasiti i leihau’r risg

  • Yn 2013, datgelodd y wlad system newydd, wedi’i diweddaru i rybuddio rhag tsunami.
  • Mae peirianwyr daeargrynfeydd wedi bod yn archwilio’r difrod, gan edrych am ffyrdd o godi adeiladau sy’n gallu gwrthsefyll daeargryn a tsunami yn well. Mae’r astudiaethau’n parhau.