Daeargrynfeydd a tsunami – CBACTsunami

Mae daeargryn yn digwydd pan mae gwasgedd sydd wedi crynhoi ar ffiniau platiau yn cael ei ryddhau. Gall daeargryn ddinistrio adeiladau ac isadeiledd. Gall achosi tsunami hefyd, ac mae effeithiau tsunami yr un mor ddinistriol ac angheuol.

Part ofDaearyddiaethTirweddau a pheryglon tectonig

Tsunami

Beth sy’n achosi tsunami?

Fel arfer, mae tsunami’n cael ei achosi gan ddaeargrynfeydd ar sydd hefyd yn cael eu galw'n ffiniau plât cydgyfeiriol. Yma, mae plât cefnforol yn cael ei i’r fantell o dan blât cyfandirol. Mae’r symudiad hwn yn achosi ffrithiant, sydd yn ei dro’n achosi i’r platiau gloi. Mae egni’n crynhoi, fel mewn sbring wedi’i gywasgu. Pan mae’r egni’n mynd yn fwy na’r ffrithiant, mae’r platiau’n neidio yn ôl i’w lle. Mae’r symudiad hwn yn hyrddio’r dŵr uwchben, gan achosi i don ffurfio. Gall y tonnau deithio’n bell iawn. Pan fydd y tonnau’n cyrraedd dŵr mwy bas, mae’r canlynol yn digwydd:

  • mae’r dŵr bas yn arafu’r don
  • mae uchder y tonnau’n cynyddu
  • mae’r tonnau’n nes at ei gilydd

Arwydd bod tsunami yn dod yn nes at arfordir yw dŵr yn encilio. Ychydig ar ôl i hyn ddigwydd, mae’r tonnau’n cyrraedd y lan. y don sy’n dilyn yw’r enciliad hwn mewn gwirionedd.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 3, Pan mae’r platiau’n symud yn sydyn mae dŵr yn cael ei ddadleoli yn yr uwchganolbwynt., Pan mae’r platiau’n symud yn sydyn mae dŵr yn cael ei ddadleoli yn yr uwchganolbwynt

Effeithiau tsunami

Y brif effaith yw llifogydd arfordirol. Gall grym tonnau mor fawr ddifrodi a dinistrio eiddo ar yr arfordir a rhoi bywydau mewn perygl.