Adeiledd y Ddaear
Mae’r Ddaear wedi’i ffurfio o wahanol haenau.
- Mae’r craidd mewnol yn y canol. Dyma ran boethaf y Ddaear. Mae’n solid, ac yn cynnwys haearn a nicel, ac mae ganddi dymereddau o hyd at 5,500°C.
- Y craidd allanol yw’r haen sydd o amgylch y craidd mewnol. Haen o hylif yw hon, ac mae hithau’n cynnwys haearn a nicel.
- Y fantell yw rhan fwyaf llydan y Ddaear. Mae ganddi drwch o tua 2,900 cilometr. Enw rhan uchaf y fantell yw’r asthenosfferRhan uchaf mantell y Ddaear, lle mae’r creigiau’n fwy hylifol.. Mae’n cynnwys craig led-dawdd o’r enw magma.
- Y gramen yw arwyneb y Ddaear. Haen o graig yw’r gramen ac mae’n ffurfio rhan uchaf y lithosfferRhan uchaf y Ddaear. Mae’n glaear ac yn frau. Mae’n cynnwys rhan uchaf un y fantell ac uwch ei phen, y gramen.. Mae’r lithosffer wedi’i rannu’n blatiau tectonig.
Damcaniaeth tectoneg platiau
Y gramen yw haen allanol y Ddaear. Dyma’r haen solid o graig rydym yn byw arni. Mae naill ai’n gyfandirol neu’n gefnforol. Mae cramen gyfandirolY rhannau o gramen y Ddaear sydd o dan dirfasau mawrion. fel arfer tua 30-50 cilometr o drwch, ond dim ond pum i ddeg cilometr o drwch yw cramen gefnforolY rhannau o gramen y Ddaear sydd o dan y cefnforoedd, sy’n ffurfio gwely’r môr.. Mae dwyster cramen gefnforol yn fwy. Mae’n gallu cael ei tansugnoPan fydd un plât cramennol yn cael ei wthio o dan y llall. ac mae’n cael ei dinistrio a’i hadnewyddu’n barhaus ar ffiniau platiau. Mae cramen gyfandirol yn hŷn ac yn ysgafnach. Nid yw’n gallu cael ei dinistrio.
Pam mae platiau’n symud?
Un esboniad am symudiadau platiau yw tyniad slabiau. Mae platiau’n drwm iawn, felly mae disgyrchiant yn effeithio arnyn nhw, ac yn eu tynnu oddi wrth ei gilydd.
Esboniad arall, fel sydd i’w weld yn y diagram, yw bod ceryntau darfudiad dan gramen y Ddaear yn trosglwyddo gwres, sy’n codi drwy’r arwyneb ac yn oeri’n ôl mewn symudiad cylchol.
Mae’r ceryntau darfudiad yn symud y platiau. Os yw’r ceryntau darfudiad yn dargyfeirio yn agos at gramen y Ddaear, mae’r platiau’n symud oddi wrth ei gilydd.
Os yw’r ceryntau darfudiad yn cydgyfeirio, mae’r platiau’n symud tuag at ei gilydd. Mae’r platiau’n cydgyfeirio ac yn symud gyda’i gilydd. Enw arall am hyn yw gwthiad cribau. Mae symudiad y platiau, a’r gweithgaredd y tu mewn i’r Ddaear, yn cael ei ddisgrifio fel damcaniaeth tectoneg platiau.