Dosbarthiad byd-eang daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd
Mae daeargrynfeydd yn digwydd yn bennaf mewn rhanbarthau hir, cul ar hyd ffin platiauArdal lle mae o leiaf ddau blât tectonig yn cwrdd. Mae’n ardal o weithgarwch seismig dwys.(neu ymylon platiau) o bob math, fel y gwelwn ar y map hwn.
Yn aml iawn, mae llosgfynyddoedd a gweithgaredd daeargrynfaol yn digwydd mewn lleoedd tebyg, mewn cylchfaoedd gweithgaredd cul, fel y gwelwn ar y map. Mae’r cylchfaoedd hyn yn cynnwys:
- Cylch Tân y Môr Tawel o amgylch y Cefnfor Tawel
- Cefnen Canol yr Iwerydd, cefnen canol cefnfor sy’n ymestyn ar hyd llawr Cefnfor Iwerydd
- de Ewrop
Ond mae rhai eithriadau pwysig. Mae Ynysoedd Hawaii, sydd i gyd wedi dechrau fel llosgfynyddoedd, wedi’u ffurfio yng nghanol y Cefnfor Tawel, dros 3,200 cilometr o’r ffin plât agosaf. Mae hyn yn cael ei egluro drwy’r ddamcaniaeth 'man poeth'.
Mae Cylch Tân y Môr Tawel i’w weld yn glir ar y map. Mae dros 450 o losgfynyddoedd byw a mud wedi’u lleoli yma. Mae’r ardal hon hefyd yn actif iawn o ran daeargrynfeydd. Mae tua 90 y cant o’r holl ddaeargrynfeydd yn digwydd yng Nghylch Tân y Môr Tawel ac o’i gwmpas.