Ffiniau platiau
Mae’r man lle mae dau blât yn cyfarfod yn cael ei alw’n ffin platiauArdal lle mae o leiaf ddau blât tectonig yn cwrdd. Mae’n ardal o weithgarwch seismig dwys. neu ymyl plât.
Ffiniau platiau distrywiol
Ar ffin plât ddistrywiol, mae’r platiau’n symud tuag at ei gilydd. Enw arall am ffin plât ddistrywiol yw ffin plât gydgyfeiriolArdal lle mae dau blât tectonig yn symud tuag at ei gilydd ac yn gwrthdaro.. Fel arfer, mae un plât yn blât cefnforol a’r llall yn blât cyfandirol. Gall y symudiad hwn achosi daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd. Enghraifft o’r ffin neu’r ymyl plât hwn yw lle mae plât Nazca a phlât De America yn cydgyfeirio.
Wrth i’r platiau wrthdaro, mae’r plât cefnforol yn cael ei wthio o dan y plât cyfandirol. Mae hyn yn cael ei alw yn tansugnoPan fydd un plât cramennol yn cael ei wthio o dan y llall. ac mae’n arwain at ffurfio ffos gefnforol. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod y plât cefnforol yn fwy dwys (trymach) na’r plât cyfandirol. Pan mae’r plât yn suddo i’r fantell mae’n toddi i ffurfio magma. Mae gwasgedd y magma yn crynhoi dan arwyneb y Ddaear. Mae’r magma yn dianc drwy wendidau yn y graig ac yn codi drwy losgfynydd cyfansawdd, sydd hefyd yn cael ei alw’n stratolosgfynyddLlosgfynydd wedi’i wneud o haenau o ludw a lafa bob yn ail.. Mae’r echdoriadau folcanig yn aml yn rymus, ac yn cynnwys llawer o stêm, nwy a lludw.
Os bydd dau blât cyfandirol yn gwrthdaro, ni all yr un ohonyn nhw suddo, felly mae’r tir yn plygu am i fyny i ffurfio mynyddoedd plyg.
(Cynnwys Saesneg)
Tirffurfiau sy’n gysylltiedig â ffiniau platiau distrywiol
Mae tirffurfiau mawr ar ffin plât ddistrywiol yn cynnwys uwch-losgfynyddoedd, er enghraifft llosgfynydd Campi Flegrei yn yr Eidal - lle mae plât Ewrasia a phlât Affrica yn symud tuag at ei gilydd ym Môr y Canoldir.
Mae tirffurfiau bach sy’n cael eu creu ar ymyl plât ddistrywiol yn cynnwys conau lludw, ee Parícutin, México. Conau lludw yw’r math mwyaf syml o losgfynydd. Maen nhw wedi’u gwneud o ronynnau a diferion o lafa wedi tewychu sy’n dod allan o un agorfa. Pan mae’r lafa llawn nwy yn cael ei hyrddio drwy’r aer, mae’n ymrannu’n ddarnau bach sy’n ymsolido ac yn disgyn fel lludw o amgylch yr agorfa i ffurfio côn crwn neu hirgrwn.
| Tirffurfiau mawr (Ffin plât ddistrywiol) | Tirffurfiau bach (Ffin plât ddistrywiol) |
| Stratolosgfynyddoedd | Côn lludw |
| Callorau | |
| Ffos gefnforol | |
| Mynyddoedd plyg |
| Tirffurfiau mawr (Ffin plât ddistrywiol) | Stratolosgfynyddoedd |
|---|---|
| Tirffurfiau bach (Ffin plât ddistrywiol) | Côn lludw |
| Tirffurfiau mawr (Ffin plât ddistrywiol) | Callorau |
|---|---|
| Tirffurfiau bach (Ffin plât ddistrywiol) |
| Tirffurfiau mawr (Ffin plât ddistrywiol) | Ffos gefnforol |
|---|---|
| Tirffurfiau bach (Ffin plât ddistrywiol) |
| Tirffurfiau mawr (Ffin plât ddistrywiol) | Mynyddoedd plyg |
|---|---|
| Tirffurfiau bach (Ffin plât ddistrywiol) |