Ffiniau platiau adeiladol
Ar ffin plât adeiladol – sydd hefyd yn cael ei galw’n ffin plât ddargyfeiriolArdal lle mae dau blât tectonig yn symud oddi wrth ei gilydd. – mae’r platiau’n symud oddi wrth ei gilydd. Pan mae hyn yn digwydd, mae’r magma o’r fantell yn codi i ffurfio (neu adeiladu) cramen newydd. Gall symudiad y platiau dros y fantell achosi daeargrynfeydd. Gall magma sy’n codi hefyd greu llosgfynydd tarianLlosgfynydd â llethrau graddol, a gafodd ei wneud gan lafa sylfaenol diferllyd, a llai ffrwydrol..
Tirffurfiau sy’n gysylltiedig â ffiniau platiau adeiladol
Mae tirffurfiau mawr ar ffin plât adeiladol yn cynnwys:
- cefnennau cefnforol – fel cefnen Canol yr Iwerydd, lle mae plât Ewrasia a phlât Gogledd America yn symud oddi wrth ei gilydd dan Gefnfor Iwerydd
- dyffryn hollt – fel Dyffryn Hollt Dwyrain Affrica lle mae plât Affrica yn ymrannu
- llosgfynyddoedd tarian
Tirffurfiau bach ar ffiniau platiau adeiladol yw tiwbiau lafa a geiserau.
| Tirffurfiau mawr (Ffin plât adeiladol) | Tirffurfiau bach (Ffin plât adeiladol) |
| Llosgfynyddoedd tarian | Tiwbiau lafa |
| Dyffryn Hollt | Geiserau |
| Tirffurfiau mawr (Ffin plât adeiladol) | Llosgfynyddoedd tarian |
|---|---|
| Tirffurfiau bach (Ffin plât adeiladol) | Tiwbiau lafa |
| Tirffurfiau mawr (Ffin plât adeiladol) | Dyffryn Hollt |
|---|---|
| Tirffurfiau bach (Ffin plât adeiladol) | Geiserau |

Ffiniau platiau cadwrol
Ar ffin plât gadwrolArdal rhwng dau blât cramennol sy’n symud heibio i’w gilydd i gyfeiriad dirgroes neu ar wahanol gyflymder., mae’r platiau’n llithro heibio i’w gilydd i gyfeiriadau gwahanol, neu i’r un cyfeiriad, ond ar wahanol gyflymder. Wrth i’r platiau geisio symud, mae ffrithiant yn digwydd ac mae’r platiau’n cloi. Mae gwasgedd yn crynhoi gan fod y platiau’n dal i geisio symud. Pan mae’r gwasgedd yn cael ei ryddhau mae’n allyrru llawer iawn o egni, gan achosi daeargryn. Gall y daeargrynfeydd ar ffin plât gadwrol fod yn ddinistriol iawn gan eu bod yn digwydd yn agos at arwyneb y Ddaear. Nid oes llosgfynyddoedd ar ffin plât gadwrol.
Tirffurf mawr sydd i’w weld ar ffin plât gadwrol yw ffawtlin. Un o’r ffawtlinau mwyaf actif yn y byd yw ffawtlin San Andreas yng Nghaliffornia, UDA.

(Cynnwys Saesneg)