Llosgfynyddoedd – CBACBle mae llosgfynyddoedd i’w gweld?

Mae llosgfynyddoedd cyfansawdd a llosgfynyddoedd tarian i’w gweld ar ffiniau platiau. Mae ganddyn nhw nodweddion arbennig, ac maen nhw’n gallu cael effeithiau cadarnhaol a negyddol ar bobl ac ar y dirwedd.

Part ofDaearyddiaethTirweddau a pheryglon tectonig

Ble mae llosgfynyddoedd i’w gweld?

Mae llosgfynyddoedd yn ffurfio pan mae , sef craig dawdd dan gramen y Ddaear, yn cyrraedd yr arwyneb. Mae’r magma yn echdorri ac yn ffurfio .

Fel arfer, mae llosgfynyddoedd yn ffurfio ar , lle mae platiau tectonig naill ai’n symud tuag at ei gilydd neu oddi wrth ei gilydd:

  • (neu ffin adeiladol) - pan mae dau blât yn symud oddi wrth ei gilydd. Mae magma yn codi i lenwi’r bylchau rhwng y platiau, fel arfer i greu .
  • (neu ffin ddistrywiol) - lle mae dau blât yn symud tuag at ei gilydd. Mae’r gramen gefnforol yn suddo o dan y gramen gyfandirol mewn cylchfa – man lle mae’r plât cefnforol, sydd â dwysedd uwch, yn cael ei wthio o dan y plât cyfandirol, sydd â dwysedd is. Wrth i’r gramen gefnforol suddo i’r fantell, mae’n toddi ac yn creu magma, ac yn cynyddu’r gwasgedd. Mae’r magma hwn yn codi i ffurfio llosgfynyddoedd cyfansawdd ffrwydrol (sydd hefyd yn cael eu galw yn ).

Mae llosgfynyddoedd yn effeithio ar wahanol leoedd mewn gwahanol ffyrdd. Maen nhw’n achosi mwy o ddifrod mewn gwledydd tlawd, lle mae llai o adnoddau i ragweld a pharatoi ar eu cyfer.

Map o’r byd yn dangos y prif blatiau a lleoliad llosgfynyddoedd byw (dotiau coch).