Effeithiau
Mae llosgfynyddoedd yn cael effaith fawr ar yr ardal o’u cwmpas. Maen nhw’n cynhyrchu lludw, lafa, bom folcanigBloc mawr o graig boeth a gaiff ei daflu allan o losgfynydd., llif pyroclastigCerrynt o greigiau a nwy poeth sy’n llifo am i lawr ar gyflymder uchel. a laharLleidlif enfawr sy'n digwydd ar ôl i haenau o ludw neu ddeunydd pyroclastig gymysgu gyda dŵr glaw.. Mae lludw o losgfynyddoedd mawr yn gallu effeithio ar hinsoddau byd-eang. Mae echdoriadau grymus hefyd yn gysylltiedig â llifoedd pyroclastig anferth a bomiau folcanig.
(Cynnwys Saesneg)
Gall llosgfynyddoedd gael effeithiau cadarnhaol a negyddol.
Effeithiau cadarnhaol
- Mae egni geothermolEgni o wres y Ddaear. yn ymwneud â defnyddio gwres sydd yn y Ddaear i gynhyrchu trydan. Gall egni geothermol gael ei gynhyrchu mewn ardaloedd lle mae magmaCraig dawdd sydd y tu mewn i’r Ddaear. yn agos at yr arwyneb. Mae hyn yn dda er mwyn cynyddu’r defnydd o egni adnewyddadwy.
- Mae lludw sy’n cael ei fwrw allan gan y llosgfynydd yn wrtaith da i briddoedd.
- Mae llosgfynyddoedd yn denu llawer o ymwelwyr, sy’n mwynhau’r golygfeydd dramatig.
- Mae magma sy’n codi’n dod â mwynau gwerthfawr i’r arwyneb, gan greu cyfleoedd mwyngloddio.
Effeithiau negyddol
- Mae llosgfynyddoedd yn beryglus. Maen nhw’n gallu lladd pobl a difrodi eiddo.
- Gall gweithgaredd economaidd ddioddef gan ei bod yn anodd i fusnesau weithredu ar ôl echdoriad.
- Mae cynefinoedd a thirweddau’n cael eu difrodi gan lifoedd lafaCraig dawdd a gaiff ei rhyddhau o graidd y Ddaear drwy losgfynydd neu agen..
Mae pobl yn dewis byw yn agos at losgfynyddoedd oherwydd effeithiau cadarnhaol, ond gall hyn olygu eu bod mewn perygl mawr.