Mesur daeargrynfeydd
Tan yn ddiweddar, roedd daeargrynfeydd yn cael eu mesur ar graddfa RichterY raddfa ar gyfer mesur cryfder daeargrynfeydd.. Mae graddfa Richter yn mesur maint daeargryn (pa mor gryf yw’r daeargryn). Mae’n cael ei fesur gan ddefnyddio peiriant o’r enw seismomedrPeiriant sy’n canfod tonnau seismig o ddaeargrynfeydd. sy’n cynhyrchu seismograff. Fel arfer mae graddfa Richter yn cael ei rhifo o un i ddeg, ond nid oes terfyn uchaf. Mae’n logarithmig, hynny yw, mae daeargryn sy’n mesur pump ar y raddfa ddeg gwaith yn gryfach na daeargryn sy’n mesur pedwar.
Mae daeargrynfeydd sy’n mesur un i ddau ar y raddfa’n digwydd yn rheolaidd, ac maen nhw mor fach fel nad yw pobl yn gallu eu teimlo. Mae daeargrynfeydd sy’n mesur saith a mwy yn digwydd yn llai aml, ond maen nhw’n gryf iawn ac yn gallu achosi llawer o ddinistr. Y daeargryn mwyaf sydd wedi cael ei gofnodi erioed yw daeargryn yn Chile yn 1960. Roedd yn mesur 9.5 ar y raddfa Richter.