Daeargrynfeydd a tsunami – CBACEffeithiau daeargryn

Mae daeargryn yn digwydd pan mae gwasgedd sydd wedi crynhoi ar ffiniau platiau yn cael ei ryddhau. Gall daeargryn ddinistrio adeiladau ac isadeiledd. Gall achosi tsunami hefyd, ac mae effeithiau tsunami yr un mor ddinistriol ac angheuol.

Part ofDaearyddiaethTirweddau a pheryglon tectonig

Effeithiau daeargryn

Yr effaith yw’r difrod sy’n digwydd o ganlyniad i’r daeargryn. Gall effeithiau daeargryn amrywio gan ddibynnu ar y canlynol.

  • Maint y daeargryn ar y raddfa Richter – mae daeargryn sy’n uwch ar y raddfa yn achosi mwy o ddinistr.
  • Lefel datblygiad – a yw’n digwydd mewn gwlad gyfoethog neu mewn gwlad dlawd. Bydd gwledydd mwy cyfoethog yn fwy tebygol o allu rhagweld daeargryn, a cheisio paratoi a diogelu eu hunain rhag ei effeithiau.
  • Dyfnder y canolbwynt – gall daeargryn bas fod yn fwy dinistriol.
  • Y pellter o’r uwchganolbwynt – mae effeithiau daeargryn yn fwy difrifol yn y canol.
  • Dwysedd poblogaeth – po fwyaf o bobl sy’n byw mewn ardal, po fwyaf y tebygolrwydd y bydd mwy o farwolaethau ac anafiadau.
  • Yr amser o’r dydd – a yw pobl yn eu cartrefi, yn eu gwaith neu’n teithio.

Ymatebion

Ymatebion yw’r ffordd y mae gwledydd yn ymateb i ddaeargryn. Maen nhw’n cael eu categoreiddio fel a ganlyn:

  • Tymor byr neu uniongyrchol – ymateb yn yr oriau, diwrnodau ac wythnosau yn syth ar ôl i ddaeargryn neu drychineb ddigwydd. Mae ymatebion tymor byr fel arfer yn cynnwys chwilio ac achub, a helpu pobl sydd wedi cael eu hanafu.
  • Tymor hir – ymatebion sy’n parhau am fisoedd a blynyddoedd ar ôl daeargryn neu drychineb. Gallant gynnwys ailadeiladu tai, ysgolion ac ysbytai sydd wedi cael eu dinistrio. Maen nhw hefyd yn cynnwys rhoi hwb cychwynnol i’r economi leol.