Astudiaeth achos – Nepal 2015 (LMIC)

Kathmandu – dinas wedi’i dinistrio
Achosion
Ar 25 Ebrill 2015 cafodd Nepal, gwlad incwm isel yn Asia, ei tharo gan ddaeargryn maint 7.8. Digwyddodd y daeargryn ar ffin plât gydgyfeiriolArdal lle mae dau blât tectonig yn symud tuag at ei gilydd ac yn gwrthdaro. rhwng plât India a phlât Ewrasia. Roedd canolbwynt y daeargryn gyn lleied ag wyth cilometr o dan arwyneb y Ddaear, ac roedd yr uwchganolbwynt 60 cilometr i’r gogledd-orllewin o’r brifddinas, Kathmandu.
Achosodd y daeargryn eirlithriad ar Fynydd Everest, a laddodd tua 20 o bobl. 25 Ebrill 2015 yw’r diwrnod mwyaf angheuol yn hanes y mynydd. Achosodd eirlithriad mawr arall yn nyffryn Langtang, lle cafodd dros 250 o bobl eu lladd.

Eirlithriad yn y Gwersyll Cyntaf ar Fynydd Everest
Bron bob diwrnod am dair wythnos gyfan, roedd ôl-gryniadau’n cael eu cofnodi yn y rhanbarth. Roedd bron i un o bob tri yn ddaeargryn maint pump neu fwy.
Effeithiau
Isadeiledd
- Cafodd adeiladau a godwyd ganrifoedd yn ôl eu dinistrio yn safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn Nyffryn Kathmandu, gan gynnwys rhai yn Nheml Changu Narayan a Thŵr Dharahara.
- Cafodd miloedd o dai eu dinistrio mewn sawl rhan o’r wlad.
Effeithiau cymdeithasol ac economaidd
- 8,632 wedi marw ac 19,009 wedi eu hanafu.
- Hwn oedd y daeargryn gwaethaf yn Nepal ers dros 80 o flynyddoedd.
- Mae tymereddau’n gostwng yn Nepal yn y nos, ac roedd pobl yn dewis cysgu y tu allan oherwydd yr ôl-gryniadau neu’r posibilrwydd y byddai tai’n dod i lawr.
- Cafodd cannoedd o filoedd o bobl eu gwneud yn ddigartref, a chafodd pentrefi cyfan eu dinistrio.
- Cafodd 1.7 miliwn o blant heb do uwch eu pennau.
- Roedd y cynaeafau’n llai y tymor hwnnw, neu wedi methu’n llwyr.
- Yn ôl amcangyfrifon cychwynnol Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau (USGS) byddai’r colledion economaidd rhwng naw a 50 y cant o’r cynnyrch domestig gros – yr amcan gorau oedd 35 y cant.
- Colli refeniw twristiaeth yn y tymor byr – diwydiant mawr yn Nepal.
- Achosodd y daeargryn eirlithr ar Fynydd Everest, a laddodd tua 20 o bobl. Yn ôl yr amcangyfrifon roedd hyd at 1,000 o gerddwyr a dringwyr yn y Gwersyll Cyntaf ar adeg y daeargryn.
- Bu llawer o dirlithriadau yn nyffrynnoedd serth yr ardal. Cafodd pentref Ghodatabela ei orchuddio, gan ladd 250 o bobl.

Tŵr Dharahara, Kathmandu, cyn ac ar ôl y daeargryn
Ymatebion i leihau’r effeithiau
- Cafodd cymorth rhyngwladol ei ddarparu gan India a China a ymrwymodd dros $1 biliwn rhyngddynt i gefnogi Nepal.
- Cynigiodd y DU gymorth a chefnogaeth. Cafodd dros 100 o ymatebwyr chwilio ac achub, arbenigwyr meddygol, ac arbenigwyr trychinebau ac achub eu hanfon, ynghyd â thair hofrennydd Chinook i’w defnyddio gan lywodraeth Nepal.
- Cafodd y teclyn GIS “Crisis mapping” ei ddefnyddio i gydgysylltu’r ymateb.
- Daeth gweithwyr cymorth o elusennau fel y Groes Goch i helpu.
- Cafodd tai dros dro eu darparu, gan gynnwys ‘Dinas y Pebyll’ yn Kathmandu.
Ymatebion i ddatblygu’r capasiti i ymdopi
- Sefydlodd y llywodraeth dasglu newydd i helpu i ymdrin â daeargrynfeydd yn y dyfodol.
- Cafodd ardaloedd eu rhannu’n barthau er mwyn asesu’r difrod.
- Mae pobl ym mhob rhan o Nepal bellach yn cael eu haddysgu i wneud ymarferion paratoi ar gyfer daeargryn.
Ymatebion i fynd i’r afael â gwraidd y broblem
- Mae Llywodraeth Nepal yn ymdrechu’n galed i leihau tlodi fel bod pobl yn gallu adeiladu tai a strwythurau sy’n gallu gwrthsefyll daeargrynfeydd.
Y tymor hir
- Rhoddodd yr Asian Development Bank (ADB) grant o $3 miliwn i Nepal ar gyfer ymdrechion lliniaru uniongyrchol, a hyd at $200 miliwn ar gyfer cam cyntaf y broses ailsefydlu.
- Fe wnaeth nifer fawr o wledydd roi cymorth. Rhoddodd y DU £73 miliwn, £23 miliwn wedi’i gyfrannu gan y llywodraeth a £50 miliwn wedi’i gyfrannu gan y cyhoedd. Yn ychwanegol at hyn, darparodd y DU 30 tunnell o gymorth dyngarol ac wyth tunnell o gyfarpar.

Cae ‘dinas y pebyll’ yn Kathmandu, Nepal