Bywyd yn ystod blynyddoedd y DirwasgiadTwf diwydiannau ysgafn mewn rhannau o Brydain

Roedd y dirwasgiad yn gyfnod cythryblus i gymaint o deuluoedd ym Mhrydain ac roedden nhw’n wynebu nifer o heriau. Ond, yn rhyfeddol, roedd rhai ardaloedd wedi ffynnu yn ystod y 1930au. Sut oedd pobl yn gallu ymdopi â’r heriau yn ystod blynyddoedd y Dirwasgiad?

Part ofHanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Twf diwydiannau ysgafn mewn rhannau o Brydain

Ymddangosodd nifer o ddiwydiannau newydd yn y 1930au. Roedd nifer o’r diwydiannau newydd yma yn cael eu pweru gan drydan yn hytrach na glo, felly nid oedd angen eu hadeiladu’n agos i feysydd glo. Gellid eu hadeiladu yn agosach at ardaloedd â phoblogaeth uchel megis canolbarth a de-ddwyrain Lloegr.

Nwyddau a chyflogwyr newydd

Cynhyrchwyd nwyddau newydd megis ceir, y radio, poptai ac oergelloedd. Roedden nhw’n cael eu masgynhyrchu mewn ffatrïoedd modern.

Defnyddiwyd hysbysebu clyfar er mwyn annog defnyddwyr i brynu’r eitemau hyn drwy’r cynllun hurbwrcasu. A dyma oedd yn digwydd yn achos yr eitemau drytaf hyd yn oed.

Gellid prynu’r car mwyaf poblogaidd, yr Austin 7, am ddim ond £125 yn 1936. Roedd hynny yn £100 yn rhatach nag yn 1923. Gwerthwyd 2 filiwn o geir yn 1938.

Erbyn 1937, roedd gan hanner cartrefi Prydain radio, hyd yn oed yn ardaloedd tlotaf Cymru. Roedd gan fwy o gartrefi gyflenwad trydan, felly roedd pobl yn cael eu denu gan nwyddau trydanol newydd. Erbyn 1938, roedd y nifer o dai oedd â chyflenwad trydan wedi codi i 9 miliwn.

Roedd cyflogwyr mawr yn cynnwys Ford yn Dagenham, Hoover (sugnwyr llwch) yn Isleworth, gorllewin Llundain a Cadbury yn Bourneville, Birmingham.

Gweithwyr ffatri yn gweithio ar linell gynhyrchu’r Ford du
Image caption,
Ffatri Ford yn Dagenham, Essex 1937