‘Cael deupen llinyn ynghyd’ ac allfudo o Gymru
Gallai diweithdra arwain at dlodi, methu â thalu am gostau byw sylfaenol a theimlad o anobaith. Roedd tlodi, yn gorfforol a meddyliol, yn effeithio ar fywydau llawer o bobl oedd yn byw yr yr ardaloedd dirwasgiedig o Brydain, megis gogledd ddwyrain Lloegr, de Cymru a chanolbarth Yr Alban.
Roedd pwysau bywyd ar y dôl a delio â phwysau’r Prawf ModdPenderfynu a yw unigolyn neu deulu yn gymwys ar gyfer cymorth y llywodraeth yn seiliedig ar gyfoeth yr unigolyn neu'r teulu hwnnw. yn golygu bod bywyd yn anodd, ac felly roedd rhaid i bobl geisio cael deupen llinyn ynghyd.
Fel arfer, dim ond y dyn oedd yn ennill cyflog, felly pan oedd yn colli ei swydd roedd y teulu cyfan yn dioddef. Yn aml, y menywod oedd yn gorfod gwneud yr aberth mwyaf. Bydden nhw’n bwyta’r dognau lleiaf o fwyd wrth iddyn nhw straffaglu i fwydo eu teuluoedd.
Roedd teuluoedd tlawd yn aml yn bwyta llawer o fwyd rhad megis tatws a bara gyda margarîn, ac ychydig iawn o fwyd mwy maethlon megis cig, llysiau, ffrwythau ffres a llaeth. Roedd hynny’n golygu eu bod yn fwy tebygol o ddioddef afiechydon.
Dangosodd un arolwg yn Stockton-on-Tees fod teulu tlawd yn debygol o wario dim ond 3 swllt (15c) y pen ar fwyd bob wythnos, ond bod teulu mwy cyfoethog yn gwario o leiaf 6 swllt (30c). Yn 1936, roedd gan 4.5 miliwn o bobl Prydain deiet cwbwl annigonol.
Roedd menywod yn aml yn esgeuluso eu hiechyd eu hunain, ee yn peidio â phrynu meddyginiaethau pan oedden nhw’n sâl. Mae'r adroddiadau swyddogol yn cadarnhau bod niferoedd y marwolaethau wrth roi genedigaeth ac afiechydon menywod yn uwch yng Nghymru nag yng ngweddill Prydain.
Gallai cael plentyn yn ystod y blynyddoedd hynny fod yn anodd iawn. Yn ogystal â’r gyfradd marwolaethau uwch, roedd hi’n anodd darparu’r pethau elfennol megis llaeth a chlytiau, ac yn aml defnyddiwyd pethau fel dŵr siwgr a hen bapurau newydd yn lle hynny.

Roedd nifer o ferched yn ceisio gofalu am y cartref gydag ychydig iawn o arian, neu’n atgyweirio dillad. Yn aml roedden nhw’n chwilio am waith mewn gwasanaeth domestig neu drwy weithio fel cynorthwywyr siopau.
Roedden nhw’n aml yn derbyn cyflogau llai na dynion am hynny, a gallai hynny effeithio ar unrhyw ddôl y gallai’r gŵr ei dderbyn oherwydd y Prawf Modd. Bob blwyddyn roedd hi’n anoddach dod i ben ac atgyweirio
wrth i fwy o nwyddau’r cartref a dillad fynd yn hen a thyllog.
Plant
Arweiniodd deiet gwael at gyfradd marwolaethau babanod uwch ac iechyd gwael ymysg plant ardaloedd dirwasgiedig. Yn Northumberland a Durham, bu farw 76 am bob 1,000 o fabanod a phlant bach yn 1935. Roedd hyn yn swm tipyn yn uwch o gymharu âg ardaloedd yn ne Lloegr lle roedd 42 am bob 1,000 o fabanod a phlant bach yn marw.
O gymharu â phlant o deuloedd mwy cyfoethog, roedd plant tlawd:
- ddeg gwaith yn fwy tebygol o ddal broncitis
- wyth gwaith yn fwy tebygol o ddal niwmonia
- pum gwaith yn fwy tebygol o ddioddef o’r llech (rickets)
Hunangymorth
Roedd llawer o bobl yn yr ardaloedd dirwasgiedig yn delio â chanlyniadau’r Dirwasgiad trwy 'hunangymorth'. Gall fod yn rhywbeth anffurfiol, cymunedol neu deuluol, ee menywod yn defyddio systemau credyd er mwyn cyfnewid nwyddau am arian wrth dalu rhent, prynu dillad a bwyd. Byddai cymdogion yn helpu ei gilydd pan byddai argyfwng, ee geni plant. Cafodd clybiau di-waith eu sefydlu a daethon nhw'n lefydd cyfarfod poblogaidd.
Allfudo o Gymru
Symudodd miloedd o weithwyr di-waith a’u teuluoedd o Gymru i’r ardaloedd mwy ffyniannus neu lai tlawd, megis canolbarth a de-ddwyrain Lloegr.
Wrth iddyn nhw chwilio am waith a gobaith newydd, roedd rhai wedi defnyddio cynllun y llywodraeth a drefnwyd er mwyn canfod gwaith a llety yn Lloegr ar gyfer gweithwyr di-waith o Gymru.
Oherwydd y rhyfel, ni chynhaliwyd cyfrifiad yn 1941, ond amcangyfrifir bod:
- 430,000 wedi gadael Cymru yn ystod y 1920au a’r 1930au
- Merthyr Tudful wedi colli 10,000 o bobl yn ystod y 1930au