Effaith adloniant poblogaidd
Roedd angen rhywbeth ar bobl i dynnu eu meddwl o’u trafferthion er mwyn ceisio ymdopi ag effeithiau’r Dirwasgiad, felly roedd y rhain yn fathau poblogaidd o adloniant. Roedden nhw’n helpu i godi ysbryd pobl, tra'n cynnig dihangfa hefyd.
Pwysigrwydd radio

Ymddangosodd y radio, neu’r wireless, yn 1922, ac wrth iddyn nhw gael eu mas-gynhyrchu fe ddaethon nhw’n rhatach i’w prynu. Erbyn 1937, roedd gan hanner cartrefi Prydain radio, hyd yn oed yn ardaloedd tlotaf Cymru.
Roedd sefydlu rhanbarth Cymru i’r BBC yn 1937 wedi rhoi hwb arall i wasanaeth radio yng Nghymru, ac roedd rhaglenni lleol yn cael eu cynhyrchu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd y BBC yn gallu cynnig amrywiaeth mawr, yn cynnwys theatr byw, newyddion, cerddoriaeth, dramâu a chomedi.
Sinema
Mae’n debyg mai’r sinema oedd y math mwyaf poblogaidd o adloniant yn y 1930au. Roedd ffilmiau heb sain wedi cael eu dangos ers dechrau’r ganrif, ond o ddiwedd y 1920au roedd pobl yn cael eu denu at y ffilmiau llais newydd.
Roedd yr apêl o weld sêr ffilm Hollywood megis Errol Flynn, Greta Garbo a Clark Gable, prisiau tocynnau isel, a thwf sinemâu moethus newydd yn golygu bod y sinema yn atyniadau gwych.
Erbyn 1934, roedd yna dros 20 o sinemâu yng Nghaerdydd a 320 yng Nghymru gyfan. Daeth yn lle i bobl ifanc gyfarfod, i blant wylio ffilmiau llawn cyffro ac i oedolion ddianc am gyfnod rhag realiti’r Dirwasgiad. Dangoswyd y ffilm gyntaf gyda llais Cymraeg yn 1935.

Erbyn 1939 roedd yna 4,776 o sinemâu ym Mhrydain, ac roedd gwerthiant ar gyfartaledd wedi cyrraedd 23 miliwn o docynnau bob wythnos.
Roedd y rhan fwyaf o’r ffilmiau a ddangoswyd yn cael eu cynhyrchu yn America, ond ffilmiwyd un ffilm enwog o’r enw The Proud Valley ar leoliad yn ne Cymru yn 1939. Yn serennu ynddi oedd y canwr a’r actor Americanaidd, Paul Robeson, ac mae’r ffilm yn adrodd stori glöwr a chanwr du o America, sy’n cael gwaith mewn pwll glo ac yn ymuno â chôr meibion. Gwylia glip byr o The Proud Valley ar erthygl newyddion BBC Cymru.
Chwaraeon
Roedd hyn yn ddiddordeb arall oedd yn helpu i bobl ymdopi, a thyfodd ei boblogrwydd a’i bwysigrwydd drwy gydol y cyfnod anodd yma.
Roedd rygbi'r undeb yn boblogaidd, ac yn 1935 llwyddodd Cymru i guro Lloegr a Seland Newydd. Cafodd tîm criced Morgannwg lwyddiant yn y 1930au.

Bocsiwr llwyddiannus iawn oedd yr arwr o’r Rhondda, Tommy Farr, ac roedd yr ornest am bencampwriaeth pwysau trwm y byd yn erbyn yr arwr o America, Joe Louis, yn destun chwedloniaeth, er iddo golli’r frwydr.