Bywyd yn ystod blynyddoedd y DirwasgiadY dôl a’r Prawf Modd

Roedd y dirwasgiad yn gyfnod cythryblus i gymaint o deuluoedd ym Mhrydain ac roedden nhw’n wynebu nifer o heriau. Ond, yn rhyfeddol, roedd rhai ardaloedd wedi ffynnu yn ystod y 1930au. Sut oedd pobl yn gallu ymdopi â’r heriau yn ystod blynyddoedd y Dirwasgiad?

Part ofHanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Y dôl a’r Prawf Modd

Roedd pobl a gollai eu gwaith yn dibynnu ar fudd-dal diweithdra, sef y dôl. Roedd gan ddyn di-waith hawl i dderbyn budd-dal gan y cynllun yswiriant diweithdra am y chwe mis cyntaf.

Ond, er mwyn torri ar gostau, cyflwynodd y llywodraeth Brawf Modd yn 1931. Roedd swyddogion yn ymweld â theuluoedd er mwyn asesu a oedden nhw’n gymwys i dderbyn cymorth. Roedd hynny’n cynnwys canfod faint oedd y teuluoedd yn ei ennill neu faint o eiddo oedd ganddyn nhw.

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn dôl, roedd raid i weithiwr basio’r Prawf Modd, a byddai’r swm a delid i bob teulu yn seiliedig ar y prawf hwn.

Roedd y profion yn creu nifer o broblemau i deuluoedd. Roedd tensiynau yn codi petai gan blentyn hŷn ychydig o waith, neu os oedd gan fam waith rhan amser, neu hyd yn oed os oedd mam-gu neu dad-cu yn byw yn y tŷ heb dalu rhent. Gallai’r Prawf Modd olygu gwrthod rhoi dôl iddyn nhw. Roedd rhaid gwerthu eiddo etifeddol megis pianos, a gwario cynilion cyn y gellid derbyn dôl.

I wneud pethau hyd yn oed yn waeth, torrwyd 10 y cant oddi ar y dôl yn 1931.

Gorymdaith o ddynion â baneri. Mae’r faner ar y blaen yn dweud ‘Mae’r Rhondda yn uno yn erbyn Prawf Modd y Llywodraeth’.
Image caption,
Cymry yn protestio yn erbyn y Prawf Modd amhoblogaidd