Buddion bywyd yn ystod y Dirwasgiad
Deddf yr Ardaloedd Arbennig (1934)
Roedd hwn yn ddull allweddol a gyflwynwyd gan y llywodraeth i ddarparu cymorth i’r ardaloedd oedd yn dioddef waethaf yn ystod y Dirwasgiad.
Roedd y Ddeddf yn penodi dau gomisiynydd i fod yn gyfrifol am grantiau gwerth £2 filiwn (sy’n werth tua £130 miliwn heddiw) er mwyn annog cwmnïau i symud i ardaloedd arbennig. Erbyn 1938 gwariwyd dros £8 miliwn, ond dim ond tua 14,900 o swyddi newydd a grëwyd. Roedd y ddeddf hefyd yn annog ailhyfforddi ac yn cefnogi gweithwyr oedd yn symud i drefi eraill.
Y syniad oedd y byddai ffatrïoedd yn cael eu lleoli gyda’i gilydd i ffurfio ystâd fasnachu. Enw’r mwyaf o’r rhain, a agorwyd ym Mehefin 1936, oedd Stad Ddiwydiannol Trefforest, sydd rhwng Pontypridd a Chaerdydd. Erbyn 1939, dim ond 2,500 oedd yn cael eu cyflogi yno. Ni allai’r diwydiannau ysgafn ar yr ystadau yma amsugno’r holl bobl ddi-waith o ardaloedd y pyllau glo ac adeiladu llongau. Ond, parhaodd y llywodraeth i fuddsoddi yn yr ystâd ddiwydiannol, ac erbyn 1945, roedd 16,000 o bobl yn gweithio ar Stad Ddiwydiannol Trefforest.

Cafwyd rhai newidiadau positif yn hanes rhai pobl ym Mhrydain yn ystod y cyfnod caled yma. Adeiladodd cynghorau 500,000 o dai cyngor a oedd wedi chwistrellu arian i’r economi.
Ond, dim ond pobl o’r dosbarth canol neu uwch oedd yn elwa, neu ardaloedd na effeithiwyd yn ddrwg arnyn nhw gan y Dirwasgiad. Roedd rhai pobl, yn arbennig yn ne Lloegr, wedi mynd yn gyfoethocach yn ystod y Dirwasgiad. Cafodd dulliau masgynhyrchu eu defnyddio mewn nifer o ddiwydianau ysgafn.
Buddion i bobl gyfoethog
Hurbwrcasu - roedd prynu ar gredyd a phrynu nawr a thalu wedyn yn caniatáu i bobl gael pethau moethus ‘byth bythoedd’.
Gostyngodd prisiau yn ystod y Dirwasgiad, a oedd yn golygu bod mwy o arian gan rai i brynu pethau moethus
Lleihaodd maint teuluoedd, a oedd yn golygu bod mwy o arian gan rai i brynu pethau moethus
Gwelliannau yn y gwaith megis lleihau oriau gwaith, gwyliau â thâl

Daeth trefi glan y môr i fod yn gyrchfannau gwyliau poblogaidd. Dyma lun o draeth prysur Bournemouth, 1931

Adeiladwyd tair miliwn o dai newydd yn y 1930au. Bu cynnydd o 1,200 y cant mewn tai oedd â thrydan
Cynnydd enfawr mewn perchnogion ceir
Sugnwyr llwch, peiriannau golchi dillad, y radio a’r teledu cyntaf
Gwell cyfleusterau hamdden megis sinemâu, neuaddau dawns, pyllau nofio a gemau pêl-droed
Cyflwynwyd llaeth am ddim mewn ysgolion ar ôl 1934