Y bydCymorth Cristnogol

Mae gan Gristnogion wahanol safbwyntiau o ran deongliadau o greu'r bydysawd. Maen nhw'n credu bod y Ddaear yn perthyn i Dduw, ac mai stiwardiaid sy'n gyfrifol am ofalu amdani yw pobl.

Part ofAstudiaethau CrefyddolBywyd a marwolaeth - Uned 1

Cymorth Cristnogol

Mae'r mudiad Cymorth Cristnogol yn gweithio ledled y byd i geisio dileu tlodi. Nod y mudiad yw creu byd mwy cyfartal, lle mae gan bawb yr un cyfleoedd a hawliau.

Mae rhan o waith Cymorth Cristnogol yn cynnwys annog mwy o bobl i fod yn ddinasyddion byd-eang a chreu byd mwy amgylcheddol gynaliadwy.

Yn ddiweddar, mae Cymorth Cristnogol wedi gweithio i ddatblygu eu targedau datblygu cynaliadwy. Bwriad y rhain yw diogelu'r blaned. Mae 17 o dargedau i gyd, ac maen nhw'n cynnwys, er enghraifft:

  • egni glân a fforddiadwy
  • dinasoedd a chymunedau cynaliadwy
  • gweithredu ar yr hinsawdd