Dehongliadau Cristnogol o'r creu
Mae Cristnogion heddiw yn dehongli straeon y Beibl am y creu mewn nifer o ffyrdd gwahanol.
Mae'r rhan fwyaf yn credu bod Duw wedi dod â'r bydysawd i fodolaeth o ddim byd. Weithiau, gelwir hyn yn ex nihilo. Mae rhai'n credu ei fod wedi cael ei greu o ddefnydd oedd yn bodoli eisoes. Weithiau, gelwir hyn yn ex materia.
Mae rhai Cristnogion yn cymryd y straeon Beiblaidd am y creu yn llythrennol, ac yn credu eu bod nhw'n disgrifio'n union sut cafodd y bydysawd a bodau dynol eu creu.
Mae Cristnogion eraill yn gweld y straeon hyn yn debycach i damegStori a adroddwyd gan yr Iesu er mwyn dysgu ac arddangos gwersi ac egwyddorion moesol.neu straeon symbolaidd sy'n adrodd, ar ffurf stori, y gwirionedd dwfn mai Duw greodd y bydysawd a phopeth sydd ynddo, a'i fod yn cynnal ei greu. Yn aml, bydd y Cristnogion hyn yn edrych ar wyddoniaeth i'w helpu nhw i ddeall sut gwnaeth Duw hyn.
Question
Esbonia pam mae credoau Cristnogol am y creu yn gallu amrywio.
Mae credoau Cristnogol am y creu yn gallu amrywio oherwydd ei bod hi'n bosibl dehongli'r Beibl mewn gwahanol ffyrdd. Mae Cristnogion llythrennol yn credu bod Duw wedi creu'r byd mewn chwe diwrnod cyn gorffwys ar y seithfed diwrnod, fel mae Genesis yn ei nodi. Mae llythrenolwyr yn cymryd bod y Beibl yn wir yn union fel mae wedi'i ysgrifennu, felly fyddai dim lle i ddamcaniaethau gwyddonol yn eu credoau. Mae Cristnogion sy'n anllythrenolwyr, sydd hefyd yn cael eu galw’n Gristnogion rhyddfrydig, yn dehongli'r Beibl mewn modd mwy mytholegol. Maen nhw'n credu y dylid deall y straeon mewn ffordd fwy symbolaidd. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw bob amser yn credu'r union bethau sydd wedi'u hysgrifennu yn y Beibl. Mae'n bosibl y byddai Cristnogion rhyddfrydig yn credu mewn cymysgedd o'r hyn sydd wedi'i nodi yn Genesis a'r damcaniaethau gwyddonol. Er enghraifft, efallai y byddan nhw'n credu bod Duw wedi achosi'r Glec Fawr neu esblygiad. Mae hyn yn golygu eu bod nhw'n gallu dal i gredu mai Duw greodd y byd, gan dderbyn hefyd rai o'r damcaniaethau gwyddonol.