Awdurdod
Mae'r term awdurdodI reoli rhywbeth, yn yr achos hwn bodau dynol yn rheoli’r byd. yn golygu rheoli natur. Dyma'r syniad bod bodau dynol yn gyfrifol am y byd ar ran Duw. Mae rhai Cristnogion sy'n dehongli'r Beibl yn llythrennol yn credu bod hyn yn rhoi'r hawl i fodau dynol ddefnyddio adnoddau naturiol y byd er eu budd eu hunain.
Yn Genesis 1:26-31, mae Duw yn creu bodau dynol ac yn roi'r Ddaear iddyn nhw ei gwarchod.
Bendithiodd Duw hwy a dweud, 'Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear.'
Drwy roi llywodraeth dros y tir ac anifeiliaid i ddynolryw, mae Duw yn rhoi'r hawl i ddynolryw reoli bodau byw eraill.
Stiwardiaeth
Mae'r term stiwardiaethDyletswydd ar fodau dynol i ofalu am y byd a chynnal cydbwysedd ym myd natur. yn golygu gofalu am y byd ar ran Duw. Mae Duw wedi creu byd lle mae gan fodau dynol swyddogaeth arbennig fel stiwardiaid y creu. Mae hyn yn golygu y dylen nhw ofalu am fuddiannau'r blaned a'r holl fywyd sydd arni. Mae'r gred hon yn ymwneud mwy â byw mewn cytgord â natur
Pan roddodd Duw lywodraeth i ddynolryw warchod y tir, rhoddodd cyfrifoldeb iddyn nhw hefyd. Cafodd pobl eu creu i fod yn stiwardiaid dros y tir, hynny yw:
- i'w ddefnyddio
- i'w warchod
- i'w ddiogelu